Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Hwlffordd dros y penwythnos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y B4327, Ffordd Dale am tua 14:45 ddydd Sadwrn wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd arall.
Bu farw'r beiciwr modur, dyn 38 oed, yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r dyn bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.