'Gorchymyn' i weithiwr KFC i beidio siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
kfc bangor

Mae myfyrwraig o Fangor yn dweud iddi gael gorchymyn i beidio siarad gyda chwsmeriaid yn Gymraeg tra'n gweithio i fwyty KFC yn y ddinas.

Dywedodd Ceri Hughes ei bod yn cael ei hyfforddi i ddefnyddio'r til ar y pryd.

Cafodd y gorchymyn honedig ei wneud ar 28 Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran KFC eu bod am i aelodau eu tîm siarad yr iaith y maen nhw a'r cwsmeriaid yn teimlo'n gyffyrddus gyda hi.

Ar ôl cyfnod o wyliau, penderfynodd Ms Hughes, myfyrwraig hanes yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, y byddai'n rhoi'r gorau i'r swydd.

"Roedd supervisor wedi dweud wrthyf bod rhaid i mi gymryd bob ordor yn Saesneg gan fy mod yn cael fy'n hyfforddi gan Saesnes," meddai'r fam i ddau, sy'n 27 oed ac o'r Felinheli.

"Mi wnes i gario ymlaen i siarad Cymraeg efo cwsmeriaid Cymraeg eraill a dyma hi'n dod ataf a dweud bod rhaid i fi siarad Saesneg gyda'r cwsmeriaid."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ceri Hughes ei bod wedi cael gorchymyn i siarad Saesneg

'Ddim yn dderbyniol'

Yna mae'n dweud bod y goruchwyliwr wedi mynd â hi i'r cefn a rhoi ffrae iddi, gan ddweud bod yn rhaid iddi siarad Saesneg gyda'r cwsmeriaid.

"Os oedd problem gyda hyfforddiant a iaith, dylai KFC wedi rhoi rhywun Cymraeg i'n hyfforddi," meddai Ms Hughes, sydd wedi cysylltu â Chymdeithas yr Iaith i gwyno.

"Dydi o ddim yn dderbyniol eu bod nhw wedi dweud bod rhaid i mi siarad Saesneg efo'r cwsmeriaid.

"Dwi wedi cael fy hyfforddi o'r blaen gyda phobl oedd yn siarad Polish, a doedd yna ddim problem o gwbl.

"Ond y noson yma roedd hi'n wahanol, ac roedd hi'n edrych yn flin arnaf bob tro o ni'n siarad Cymraeg."

'Anghyfreithlon'

Dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith: "Mae'n honiad difrifol iawn. Ac, os yw'n wir, mae'n hollol annerbyniol, dylai KFC ymddiheuro'n syth a mabwysiadu polisi clir bod gan eu staff a'u cwsmeriaid yr hawl ddiamod i gyfathrebu'n Gymraeg.

"Ers 2011, mae wedi bod yn anghyfreithlon ymyrryd â rhyddid pobl yng Nghymru i gyfathrebu yn Gymraeg.

"Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddo agor ymchwiliad i'r honiadau hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni KFC: "Yn KFC, rydym i gyd yn siarad yr un iaith - yr un am ein cariad tuag at ein risêt cyw iar gwreiddiol. Rydym bob tro am i aelodau ein tîm siarad yr iaith y maen nhw a'n cwsmeriaid yn teimlo'n gyffyrddus â hi."

Fe wnaeth llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg gadarnhau eu bod wedi derbyn cais i ymchwilio.

"Byddwn nawr yn ystyried y dystiolaeth er mwyn canfod â ddywedwyd wrth weithiwr na ddylai ddefnyddio'r Gymraeg ac i ba raddau yr oedd hynny yn ymyrryd â'r rhyddid sydd gan bobl yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd".