Gwrthod honiad o wahardd Cymraeg o glwb bingo Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Bingo Caernarfon

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud na wnaeth unrhyw beth "amhriodol" ddigwydd yn dilyn honiad fod Cymraeg wedi'i wahardd mewn canolfan bingo.

Roedd cwmni Majestic Bingo wedi derbyn llythyr gan Gymdeithas yr Iaith yn adrodd cwyn gan aelod o staff y clwb yng Nghaernarfon.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Majestic Bingo, Mark Jepp, nad oedd tystiolaeth i gefnogi'r honiad.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, bellach wedi dod i'r un casgliad, mewn ymchwiliad ar wahân, ac wedi anfon ei ganfyddiadau at Gymdeithas yr Iaith a Majestic Bingo.

Dywedodd y Comisiynydd, fod Majestic wedi rhoi "eglurhad rhesymol a chynhwysfawr ynglŷn â'r honiad o ymyrraeth â rhyddid unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg".

"Nid wyf o'r farn bod sail i mi ymchwilio i'r honiad ymhellach gan nad yw'n ymddangos i mi bod unrhyw beth amhriodol wedi digwydd," ychwanegodd.

Beth oedd yr honiad?

Ym mis Ebrill, dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod aelod o staff Apollo Bingo yng Nghaernarfon wedi cwyno wrthyn nhw fod rheolwr newydd y clwb wedi rhoi gorchymyn na ddylai'r staff siarad Cymraeg gyda'i gilydd - yn enwedig petai un o dri aelod newydd, oedd yn ddi-Gymraeg, yn bresennol.

Fe anfonodd Cymdeithas gwyn ffurfiol at swyddfa'r Comisiynydd gan ddadlau y byddai gweithred o'r fath yn anghyfreithlon, ac y dylai'r Comisiynydd ymchwilio.

Disgrifiad o’r llun,

Aled Roberts: Majestic Bingo wedi rhoi "eglurhad rhesymol a chynhwysfawr"

Yn ôl y gweithiwr, roedd aelodau o staff wedi derbyn gorchymyn i beidio siarad Cymraeg.

"Fydden ni ddim yn gwahardd unrhyw un, boed aelod o staff neu gwsmer rhag siarad Cymraeg, ond byddem angen deall unrhyw beth sy'n cael ei ddweud yng nghyd-destun gwaith," meddai Mr Jepp ar y pryd.

Beth ddywedodd y Comisiynydd?

Yn ei lythyr at Mr Jepp, dywedodd Mr Roberts: "Yn eich llythyr rydych yn nodi eich bod angen deall natur unrhyw sgwrs os yw o fewn cyd-destun gwaith.

"Nid oes angen i bawb ddeall bob dim drwy'r amser, mae gan unigolion ryddid i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

"Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth ymysg eich staff, rwy'n eich cynghori i fynd ati i godi ymwybyddiaeth o'r egwyddor ei bod yn rhydd iddynt ddefnyddio'r Gymraeg yn eich clybiau bingo yng Nghymru.

"Fel cwmni sy'n gweithredu yng Nghymru ac yn cyflogi siaradwyr Cymraeg, byddai'n fanteisiol pe bai'r cwmni yn cydnabod statws swyddogol yr iaith ac yn adlewyrchu mewn dogfen bolisi neu ddatganiad swyddogol nad yw'n goddef unrhyw waharddiadau neu rwystrau i staff ddefnyddio'r Gymraeg gyda eraill sydd hefyd yn dymuno defnyddio'r iaith."