Ymgynghori ar ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd
![tref Penfro](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/972E/production/_107920783_trefpenfro.jpg)
Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i fwrw 'mlaen gydag ymgynghoriad statudol i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro.
Ar hyn o bryd mae yna ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gelli Aur, ond y bwriad ydi agor ysgol benodedig Gymraeg.
Dim ond rhyw 10-11% o'r boblogaeth sydd yn medru'r Gymraeg yn nhref Penfro, o'i gymharu â thua 30% ar draws y sir.
Y llynedd, fe ddywedodd Prifathro Ysgolion Uwchradd Caer Elen a Phreseli, Mike Davies, ei fod yn gyfnod cyffrous i addysg cyfrwng Gymraeg yn Sir Benfro.
Agorodd Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, ei drysau am y tro cyntaf ym mis Medi 2018.
Ond ychwanegodd Mr Davies bod angen agor rhagor o ysgolion cynradd Cymraeg yn ne'r sir er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg sydd yno.
![Ysgol Caer Elen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9524/production/_103308183_caerelen.jpg)
Mae Pennaeth Ysgol Caer Elen yn credu bod angen mwy o ysgolion cynradd Cymraeg yn ne'r sir
Ddydd Iau fe bleidleisiodd cynghorwyr Sir Benfro i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i godi ysgol Gymraeg newydd.
Mae'r cynghorydd Huw George yn llywodraethwr yn Ysgol Gelli Aur. Dywedodd:
"Mae rhieni yn dechrau gofyn, os all hyn [ysgolion Cymraeg] ddigwydd yn Ninbych-y-pysgod a Hwlffordd, pam ddim ym Mhenfro ac yn Noc Penfro ei hunan?" meddai Mr George.
"Mae 'na fomentwm gyda ni nawr o rieni sy'n dechrau dweud 'mae isie i ni wneud rhywbeth' yn lle jyst gadael i'r peth ddigwydd."
Dywedodd y cynghorydd Jon Harvey fod y cynlluniau yn cynnig "cyfle arbennig".
Fe fydd cynghorwyr yn ystyried cais i ddilyn proses ymgynghori ffurfiol er mwyn creu'r ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal, ac i benderfynu hefyd a ydyn nhw am fanteisio ar grant cyfalaf posib o 100% gan Lywodraeth Cymru i godi'r ysgol newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017