Heddlu arfog yn Llanelli wedi ymddwyn yn broffesiynol
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth plismyn arfog yn Llanelli ymddwyn mewn modd proffesiynol wrth danio ergydion baton plastig er mwyn atal dyn gyda bwa croes yn ôl ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH).
Cafodd heddlu arfog eu galw i Heol Marine ar 26 Mawrth ar ôl i ddyn wneud bygythiadau ar y ffôn i ladd swyddogion yr heddlu.
Fe gafodd Robert Samuel o Gross Hands ei daro gan ddau faton plastig, ar ôl iddo wrthod ildio'r arf.
Dywedodd adroddiad gan yr SAYH fod yr heddlu wedi defnyddio'r opsiwn lleiaf angheuol wrth atal y dyn oedd yn ymddwyn mewn modd "bygythiol ac anrhagweladwy gydag arf mewn man cyhoeddus".
Cafodd ei arestio a'i gludo i Ysbyty Tywysog Phillip a nodwyd ei fod wedi torri ei arddwrn.
Dywedodd Catrin Evans, cyfarwyddwr SAYH Cymru: "Byddwn am longyfarch yr heddlu am y modd proffesiynol iddynt ddelio gyda'r sefyllfa.
"Mae'n glir o'r dystiolaeth ddaeth i law fod yna gyfiawnhad i'r grym â gafodd ei ddefnyddio.
"Doedd ein hymchwiliad yn methu cadarnhau gyda phendantrwydd a gafodd anaf i arddwrn y dyn ei achosi gan y baton plastig."
Cafodd Samuel, 27 oed o Gross Hands ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i wneud bygythiadau i ladd, gwneud bygythiadau gydag arf, a bod a chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019