McEvoy: 'Rhai o fewn Plaid Cymru ddim eisiau arwain'

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei ddiarddel o'r blaid ym mis Mawrth 2018

Byddai'n well gan rai o swyddogion Plaid Cymru fod yn rhan o glymblaid â Llafur yn hytrach na gweld eu harweinydd yn dod yn Brif Weinidog, yn ôl un o gyn-ACau'r blaid.

Mae Neil McEvoy wedi cwestiynu os yw rhai o swyddogion y blaid wir eisiau gweld Plaid Cymru yn ennill etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Fe wnaeth AC Canol De Cymru dynnu ei gais i ailymuno â Phlaid Cymru yn ôl yn ddiweddar - a hithau dros flwyddyn ar ôl iddo gael ei ddiarddel am dorri nifer o reolau'r blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw'n "unedig tu ôl y nod i ennill" etholiad 2021.

Yn ôl ffynonellau yn agos i Mr McEvoy, roedd disgwyl i'w gais i ailymuno gael ei wrthod, gan fod nifer o ACau Plaid Cymru yn gwrthwynebu ei gais.

Mewn llythyr at gyfreithwyr Plaid Cymru dywedodd yr AC ei fod yn tynnu ei gais yn ôl oherwydd "diffyg cyfiawnder naturiol".

Nawr mae Mr McEvoy yn gobeithio gallu cwrdd ag arweinydd y blaid, Adam Price, am "drafodaethau wyneb yn wyneb".

'Gwrthwynebu'n gryf'

Yn ôl Mr McEvoy, dim ond fe fyddai'n gallu trechu'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ac ennill mwyafrif yn etholaeth gorllewin Caerdydd i Blaid Cymru.

Ond mae'n honni y byddai well gan rai o fewn y blaid weld Mr Drakeford yn cadw ei sedd a gweld y blaid yn ffurfio clymblaid â'r Blaid Lafur.

Dywedodd Mr McEvoy: "Ydi Plaid Cymru wir eisiau ennill neu ddim? Dwi'n credu bod yr aelodau, ond rhai pobl sydd ag awdurdod yn y blaid ar y funud, beth amdanyn nhw? Ydyn nhw eisiau ffurfio llywodraeth?"

"Dwi'n gwybod fod Adam Price eisiau ennill, ond dwi'n meddwl byddai rhai eraill yn fwy cyfforddus fel partneriaid i'r Blaid Lafur, a 'dwi'n gwrthwynebu hynny'n gryf."

Ychwanegodd: "Hoffwn weld Adam Price yn Brif Weinidog. Hoffwn weld llywodraeth Plaid Cymru, ond er mwyn cyflawni hynny mae'n rhaid ennill sedd gorllewin Caerdydd, a fedra i wneud hynny.

"Pam fyddai swyddogion Plaid Cymru yn rhoi'r cyfle i Lafur ennill yng ngorllewin Caerdydd? Yr unig eglurhad welaf i yw bod rhyw fath o gytundeb wedi ei wneud yn rhywle a bod rhai eisiau bod yn bartneriaid."