McEvoy wedi tynnu cais i ail ymuno â Phlaid Cymru yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Neil McEvoy wedi penderfynu peidio gwneud cais i ail ymuno â Phlaid Cymru.

Mae llythyr gan AC Canol De Cymru yn honni iddo wneud hyn oherwydd diffyg "cyfiawnder naturiol" a dilyn y "broses gywir".

Roedd Mr McEvoy i fod i wynebu panel disgyblaeth yn trafod ei achos ddydd Mercher.

Roedd AC Canol De Cymru wedi bod yn ceisio ailymuno â'r blaid ar ôl iddo gael ei ddiarddel am dorri nifer o reolau'r blaid.

Cafodd ei ddiarddel ar ôl honiadau am ei ymddygiad yn ystod cynhadledd Plaid Cymru yn 2017.

Roedd eisoes wedi cael ei daflu allan o grŵp y blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Fe wnaeth panel disgyblu - oedd i benderfynu a ddylid caniatáu i Mr McEvoy ailymuno - argymell ym mis Mehefin y dylid diddymu'r panel wedi i wybodaeth gael ei ddatgelu i'r wasg.

'Diffyg cyfiawnder'

Yn ôl ffynonellau yn agos i Mr McEvoy, roedd disgwyl i'w gais i ail ymuno gael ei wrthod.

Roedd nifer o ACau Plaid Cymru yn gwrthwynebu ei gais.

Roedd disgwyl i'r panel disgyblu newydd gwrdd yn Aberystwyth ddydd Mercher. Y bargyfreithiwr Emyr Jones oedd i gadeirio'r cyfarfod.

Mewn llythyr at gyfreithwyr Plaid Cymru dywedodd yr AC ei fod yn tynnu ei gais yn ôl oherwydd "diffyg cyfiawnder naturiol".

Gwnaed cais i Blaid Cymru am sylw.

Cafodd Mr McEvoy ei ddiarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn Ionawr 2018.

Roedd wedi ei atal o'r grŵp ar ddau achlysur blaenorol, y cyntaf ar ôl i dribiwnlys glywed fod sylw wnaeth Mr McEvoy i swyddog o gyngor Caerdydd yn gyfystyr â bwlian.