Disgyblion ysgol yn datblygui hen safle chwarel

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, Ysgol Castell Alun
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y datblygiad yn gwneud "lles i'r ardal" yn ôl rhai o'r disgwyblion

Mae safle hen chwarel yng Ngogledd Cymru yn cael ei ddatblygu fewn i barc gwledig gyda help llaw gan ddisgyblion ysgol.

Bydd plant Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y dref yn gwneud desgiau picnic, peintio murluniau ac adeiladau a chreu llwybrau natur.

Fe gafodd Chwarel Ffordd Fagl ger yr Hob, Sir y Fflint ei chau yn 2004 ar ôl bod yn weithredol am 40 mlynedd, ac fe gafodd y parc ei brynu gan grŵp cymunedol Park in the Past yn 2015.

Bydd disgyblion blwyddyn 10 yn datblygu'r parc fel rhan o'u cwrs Bagloriaeth Cymraeg.

'Brwdfrydig'

Mae'r cwrs yn gofyn iddyn nhw dreulio o leiaf 10 awr yn y gymuned a dywedodd y cydlynydd David Swale fod pawb sy'n ymwneud a'r prosiect "yn frwdfrydig iawn."

Ffynhonnell y llun, Park in the Past
Disgrifiad o’r llun,

Bydd fferm o'r oes haearn hefyd yn cael ei datblygu ar safle'r hen chwarel

"Er ei fod yn brosiect mawr a chymhleth, rydym yn ei weld fel cyfle i ni a'r ysgol i wneud cyfraniad i'r gymuned leol.

"Rydym eisiau i'r disgyblion gymryd balchder yn eu hymdrechion fydd yn ymestyn yr ardal o harddwch naturiol sydd ddim yn bell iawn o'n campws," meddai.

'Effaith mawr'

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Paul Edwards fod y disgyblion yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sy'n cael "effaith mawr" ar eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl Freya Searle-Jones, sy'n un o'r disgyblion, mae pawb sy'n ymwneud â'r cynllun "yn teimlo'n rhan o rywbeth fydd yn gwneud lles i'n ardal".

Yn ogystal â'r gwaith adnewyddu, bydd y parc hefyd yn cynnwys atyniad hanesyddol gyda chaer Rufeinig.

Mae cynlluniau eraill ar gyfer y safle 120 erw yn cynnwys ardal gadwraeth, ardal oes haearn, fferm a phentref a phont newydd dros afon Alun.