Dynes wedi marw deuddydd wedi cychwyn triniaeth cemotherapi

  • Cyhoeddwyd
Siaron Lowis BondsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Siaron Lowis Bonds yn 26 oed yn 1994

Mae mam o Wynedd wedi dweud wrth gwest sut aeth ei merch i'r ysbyty am driniaeth cemotherapi yn 1994, cyn marw llai na thridiau'n ddiweddarach.

Aeth Siaron Lowis Bonds - a oedd yn 26 oed ac yn byw yn Llanrug - i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ar 7 Medi y flwyddyn honno ar ôl cael gwybod bod ganddi ganser.

Ond bu farw dau ddiwrnod yn ddiweddarach o syndrom ATLS.

Cychwynnodd cwest i'w marwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Llun - bron i 25 mlynedd ers ei marwolaeth.

Clywodd y gwrandawiad fod y cwest yn digwydd o ganlyniad i dystiolaeth newydd sydd wedi dod i law, ac oherwydd newidiadau yn y gyfraith o amgylch crwneriaid ers iddi farw.

'Mewn lot o boen'

Dywedodd Nerys Bonds, mam Siaron, sut y cyrhaeddodd ei merch yr ysbyty ar fore 7 Medi 1994, a mynnu ei bod yn cerdded i'r ward - sy'n arbenigo mewn triniaethau canser.

Fe gychwynnodd ei thriniaeth cemotherapi'r diwrnod canlynol.

Ond dywedodd Nerys Bonds fod ei merch yn wael iawn erbyn bore 9 Medi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siaron yn derbyn triniaeth am radd uchel o 'non-Hodgkin's adult lymphoblastic lymphoma'

"Mi wnaethon ni gyrraedd yn gynnar, ac mi ddywedodd y nyrs wrthom ni'n Gymraeg fod Siaron wedi bod yn 'sâl fel ci' drwy'r nos," meddai wrth y cwest.

"Doedd hi ddim yn ei olygu'n gas, ond pan wnaethon ni weld Siaron, roedd y gwahaniaeth yn anhygoel.

"Oeddech chi'n gallu gweld ei bod hi mewn lot fawr o boen.

"Yn hwyrach, mi ddywedodd hi wrth ddoctor: 'Dwi'm yn meddwl allai gymryd mwy o hyn'."

Gofal staff yn 'annigonol'

Fe ddywedodd ei rhieni wrth y staff meddygol am bryderon ei merch ddwywaith, ond ar yr achlysur cyntaf fe ddywedodd ymgynghorydd fod Siaron yn dioddef o orbryder (anxiety).

Pan gododd y rhieni eu pryderon am yr ail waith, roedd hi'n rhy hwyr i achub Siaron.

"Roedd y nyrsys wedi gofyn i ni aros mewn swyddfa. Roedd 'na gymaint o redeg 'nôl ac ymlaen ar y coridor.

"Yna dyma 'na ddoctor ifanc yn dod i dd'eud fod Siaron wedi marw.

"Roedd hi'n anghredadwy pa mor sydyn bu hi farw."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Siaron yn Ysbyty Gwynedd ar 9 Medi 1994

Daeth adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2008, dolen allanol i'r casgliad fod y gofal a dderbyniodd Siaron yn 1994 yn "annigonol am fod cyfres o gamgymeriadau gan staff wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei marwolaeth".

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod staff wedi methu â sylwi ar ddiagnosis o ATLS, er gwaethaf ymdrechion rhieni Siaron i godi pryderon.

Ychwanegodd: "Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud ac ni chafodd unrhyw bryderon o ran ansawdd y gofal meddygol a nyrsio yn Uned Alaw eu nodi ar adeg ein hadolygiad."

Mae'r cwest yn parhau.