Cyhoeddi nofel gynta’... yn 76 oed
- Cyhoeddwyd
Pan oedd Eirlys Jones yn yr ysgol roedd hi wrth ei bodd gyda llenyddiaeth, ond rhwng magu teulu a chadw tŷ fferm ar ôl priodi doedd 'na ddim llawer o amser i 'sgwennu creadigol.
Ond fe benderfynodd roi cynnig arni ar ôl ymddeol yn ddiweddar - ac mae hi newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf a hithau'n 76 oed.
"Ro'n i'n licio sgwennu pan oeddwn i'n blentyn ysgol - wrth fy modd," meddai Eirlys Jones, aeth i Ysgol Y Ffôr ac Ysgol Ramadeg Pwllheli.
"Wedyn nes i fynd i weithio pan oeddwn i'n 16, priodi reit ifanc a chael tri o blant - wedyn doedd gan rywun ddim amser i 'sgwennu, nag i feddwl am y peth.
"Wnaethon ni ymddeol o ffermio rhyw ddwy flynedd yn ôl ac roedd gen i syniad yn fy mhen faswn i'n licio sgwennu rhywbeth a meddwl am syniad, a nes i jest mynd ati.
"Ro'n i'n codi tua 5 bob bore a sgwennu tan tua 9 - bob bore," meddai. "Roedd y syniadau jest yn dod allan o'm mhen i a ro'n i eisiau 'sgwennu.
"Doeddwn i heb wneud cynllun na dim byd. Roedd gen i ryw syniad lle oedd y stori yn mynd ond nes i jest dilyn fy nhrywydd fy hun tan oeddwn i wedi gorffen hi."
Fe wnaeth Gruff, ei gŵr, ddarllen y nofel a dweud y dylai gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
"Ro'n i'n meddwl mai jocian oedd o. Doeddwn i ddim am wneud, ond penderfynu gwneud nes i yn y diwedd, a fo'n annog," meddai Eirlys, sy'n dal i fyw ar eu fferm ger Chwilog.
Soniodd ddim gair wrth neb arall rhag ofn iddi gael beirniadaeth wael, ond ei chanmol wnaeth beirniaid Gwobr Daniel Owen.
Fe roddodd hynny hyder i Eirlys gysylltu gyda Gwasg Carreg Gwalch, ac maen nhw newydd gyhoeddi'r nofel.
Pwy ti'n feddwl wyt ti?
Mae Pwy ti'n feddwl wyt ti? yn sôn am 'rwystredigaeth, teulu a chyfrinachau'r gorffennol' ond tydi hi ddim yn hunangofiannol, meddai Eirlys:
"Mae pethau wedi newid gymaint ers hanner can mlynedd, ers pan oedden ni'n ifanc ac yn priodi. Adeg hynny roedd rhan fwya' o ferched yn priodi a chael plant ac aros adra - dim gymaint yn cadw eu gyrfaoedd.
"Ro'n i'n lwcus, roeddwn i adra ar y fferm yn mwynhau fy hun - wrth fy modd efo'r plant hyd y lle yma, hyd y caeau yma, roedd hi'n braf iawn - felly nes i erioed feddwl o, ond ella bod ambell un yn meddwl 'wel tybed be' fasa wedi digwydd taswn i wedi cario 'mlaen efo fy ngyrfa'.
"Jest rhyw feddwl fel yna nes i a dechrau fel yna - meddwl am y cymeriad a meddwl tybed sut oedd hi'n teimlo."
Cynhaliwyd lansiad swyddogol yn ddiweddar ym Mhencaenewydd, ac un o'r rhai ddaeth yno oedd un o'i chyn-athrawesau.
Meddai Eirlys, "Athrawes Gymraeg oedd Mrs Mair Jones yn Ysgol Ramadeg Pwllheli ac mi oedd hi'n athrawes arbennig.
"Mi rydw i yn falch o gael dweud ein bod ni'n dwy yn dal mewn cysylltiad ers yr holl flynyddoedd ac mi oeddwn mor hapus o'i gweld yn bresennol yn y lansiad."
Byth rhy hwyr
Mae gan Eirlys neges i unrhyw un arall sydd â'u bryd ar wneud rhywbeth ac yn gweld amser yn gwibio heibio.
Meddai: "Tydi hi ddim rhy hwyr i 'neud dim byd. Mae'n bwysig os yda' chi eisiau gwneud rhywbeth i fynd amdani.
"Mae'n hawdd iawn i chi feddwl bod hi'n rhy hwyr ond mae'n bwysig gwneud y pethau yma.
"Sna'm pwynt sefyll yn ôl a chadw at ryw un ffordd gul - pan 'da chi'n dod at ryw groesffordd mae eisiau troi oddi arni weithiau a gweld be' welwch chi."
Ac mae'n amlwg bod Eirlys wedi mwynhau ei llwybr newydd hi, gan ei bod hi bron â gorffen ei hail nofel yn barod.
Hefyd o ddiddordeb: