Yr Ifanc a Ŵyr: Toni ac Owain Schiavone

  • Cyhoeddwyd
Owain a ToniFfynhonnell y llun, Owain Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

Owain, a'i dad Toni Schiavone

Mae Toni Schiavone wedi bod yn trefnu gigs Cymraeg ers y 1970au. Yn y 1980au, tra'n athro yn Ysgol Dyffryn Conwy, roedd yn gyfrifol am drefnu gigs cyntaf band Y Cyrff o Lanrwst.

Mae ei fab Owain yn olygydd Y Selar, yn hyrwyddo grwpiau ac yn trefnu digwyddiadau a gwyliau i roi llwyfan i fandiau Cymraeg ar draws Cymru.

Yma maen nhw'n trafod perthynas tad a mab.

Owain Schiavone - 'Mae Dad yn foi da'

Plentyn yr 80au ydw i, ges i fy magu yng nghefn gwlad Cymru ym Mhandy Tudur ger Llanrwst.

Mi roedd o'n gyfnod diddorol a chyffrous achos roedd 'na lot o bethau yn digwydd yn wleidyddol ar y pryd ac roedd cerddoriaeth hefyd yn chwarae rhan yn hynny.

Roedd Dad yn weithgar iawn gyda Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru, felly mae gen i lot o atgofion o'r penwythnosau yn mynd i ralis a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y tŷ. Roedd 'na gyffro o gwmpas hynny ac roedd cerddoriaeth wastad yn gefndir i'r bwrlwm.

Pan o'n i'n fach iawn, mae genna' i gof o feddwl bod Van Morrison a Ffred Ffransis yr un person. Nhw oedd y ddau berson o'n i'n clywed fwya' amdanyn nhw pan o'n i tua 4 neu 5 oed. Roedd Ffred yn galw'n aml, ac oedd ganddo fo fan, ac am ryw reswm o'n i'n meddwl mai ei fan o oedd Van Morrison!

Mae gan Dad restr eang iawn o ddiddordeb cerddorol, ond Van Morrison ydy ei rif un, ac yn ail agos mae Y Cyrff. Felly i fi, nhw sy'n aros yn y cof fel soundtrack i fy mywyd cynnar.

Os oedden ni'n clywed unrhyw gerddoriaeth ar y teledu, o'n i'n gallu troi at Dad a holi 'be' ydy'r gân'? Oedd o fel encyclopedia cerddorol. Nid yn unig oedd o'n gallu enwi'r gân, ond oedd o'n gallu nôl y record a'i chwarae hi i ni, achos oedd ganddo fo gasgliad enfawr o gerddoriaeth. Oedd hwnna'n addysg cerddorol trylwyr i ni.

Erbyn canol y 90au, pan o'n i tua 15, 16 oed, roedd Dad yn trefnu ac yn mynd i lot o gigs ac yn ddigon bodlon mynd â fi efo fo. O'n i'n ffodus yng nghyfnod cynnar Cool Cymru i weld grwpiau fel Super Furries, Catatonia, Gorky's a'r Tystion yn chwarae yn Rhaeadr Ewynnol, Betws y Coed.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cyrff

O'n i'n tagio ymlaen i Dad, ac o'n i'n gwybod bod 'na rhyw buzz o gwmpas y grwpiau yma.

Wnes i erioed deimlo embaras i fynd i gig efo fo. Roedd o'n eitha' cool mewn ffordd, oedd Dad yn 'nabod y bobl 'ma i gyd, a gan mai o oedd un o'r trefnwyr, byswn i'n helpu ar y drws ac yn gweld tu nôl y llenni.

Roedd o'n cymryd balchder mawr yn llwyddiant y grwpiau yma i gyd achos mi oedd o wedi bod ynghlwm â nhw, wedi trefnu gigs iddyn nhw pan oedden nhw'n chwarae mewn grwpiau blaenorol.

Yn y cyfnod cynnar 1995-96, doedd SFA na Catatonia ddim yn y charts, ond mi o'n i'n licio eu sŵn nhw, ac os o'n i am eu clywed nhw, oedd yn rhaid i fi fynd efo Dad, oherwydd o'n i mewn cylch o ffrindie lle doedd cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ddim mor bwysig iddyn nhw ar y pryd.

Dwi'n dal i deimlo'n ffodus iawn mod i wedi cael y cyfle i weld y grwpie yna i gyd mewn lleoliadau lleol, bach yn Nyffryn Conwy.

'Daliadau cryf'

O ran gweithgarwch gwleidyddol, mae Dad yn berson egnïol dros ben. Mae o'n alluog iawn ac mae ganddo fo ddaliadau cryf iawn. Mae o wastad wedi bod yn barod iawn i ddatgan ei ddaliadau hefyd a dwi'n meddwl bod hynny yn rhywbeth dwi yn sicr wedi ei barchu o oedran ifanc iawn, a dwi'n licio meddwl bod hynny wedi dylanwadu arna' i, i fod yn onest ac yn agored am fy naliadau inna' hefyd.

Mae Dad wastad wedi bod yn glust, yn rhywun o'n i'n gallu troi ato, a Mam hefyd. Byse Dad ddim wedi gallu gwneud gymaint oni bai am gefnogaeth Mam. Maen nhw'n bartneriaeth dda.

Os dwi angen rhywun i stiwardio gig, maen nhw wastad wedi bod wrth law, a mae hynny'n wir hefo gweddill y teulu, 'da ni'n dîm eitha' da! 'Da ni gyd efo daliadau eitha' cryf a mae'n dod o'n magwraeth ni.

Mae 'na bobl ti'n parchu lot mewn bywyd, a pan dwi'n dod ar draws pobl dwi'n eu parchu, 'boi da' fyswn i'n dweud, a dyna sut fyswn i'n disgrifio Dad.

Ffynhonnell y llun, Owain Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

Toni ac Owain yn y 1980au

Toni Schiavone - 'R'yn ni'n cyd-dynnu yn hawdd iawn'

Pan oedd Owain yn blentyn, oedd hi'n gyfnod prysur iawn. O'n i'n weithgar iawn gyda Cymdeithas yr Iaith, ac fel rhan o hynny yn trefnu gigs ac o'n i'n 'neud lot fawr o waith gwleidyddol, hefyd.

O'n i'n chware cerddoriaeth trwy'r amser ac oedd Owain yn gweld recordiau a chasetiau o gwmpas y lle. Oedd e'n gwybod pan o'n i ddim yna, o'n i'n trefnu gig neu mewn cyfarfod o'r Gymdeithas.

Wythnos Steddfod, 'wi'n cofio yn arbennig Steddfod Port a Llangefni, o'n i gyda'r teulu yn ystod y dydd, wedyn gyda'r nos o'n i'n diflannu i stiwardio, ac oedd Owain yn gweld hyn fel rhan o'm mywyd i - a'i fywyd e.

Mi o'n i'n gobeithio y bydde'r plant yn mynegi diddordeb mewn cerddoriaeth, darllen a chwaraeon, achos o'n i'n meddwl byse hynny yn rhoi profiadau eang iddyn nhw.

O'n i'n rhedeg clwb pêl-droed bore Sadwrn yn lleol, ac mi oedd Owain wrth ei fodd gyda phêl-droed. Trwy ei arddegau hyd at ganol ei dridegau mae e 'di chware i ryw dîm neu gilydd.

Wrth ei fod e'n mynd yn hŷn oedd Owain yn cael dod gyda fi i gigs, ac oedd e wastad yn fy ngweld i wrthi yn sortio tocynnau, posteri, rhyddhau casetiau. Dwi ddim yn cofio unrhyw gyfnod lle roedd 'na embaras, lle o'n i wrth y drws a fe'n y gig, ond falle ei fod e'n cofio yn wahanol!

Erbyn hyn mae'r rôl wedi newid a dwi'n helpu allan yn stiwardio mewn gigs y mae Owain yn eu trefnu!

Cyfnod cynhyrfus

Roedd e'n gwybod am Y Cyrff cyn Catatonia, oedd e'n gwybod am Ffa Coffi Pawb a sut wnaethon nhw ddatblygu i fod yn Super Furry Animals. Roedd ganddo wybodaeth a diddordeb yn y bandie a gafodd argraff y tu hwnt i Gymru yn y diwedd - roedd e wedi eu gweld nhw ar lwyfannau bach yng Nghymru.

Roedd cyfnod cynnar Y Cyrff i fi yn gynhyrfus iawn iawn a phrysur iawn. Oedd pedwar o blant gen i, o'n i'n dal i wleidydda tipyn ac oedd datblygiad Y Cyrff tua diwedd yr 80au yn sbardun i neud fwy. Oedden nhw'n grŵp gyda chymaint o addewid ac oedden nhw mor arbennig yn yr ystyr do'n nhw ddim wir wedi tyfu allan o sîn Cymraeg, achos doedd 'na ddim sîn roc yn Nyffryn Conwy, tan iddyn nhw ddod i'r amlwg.

Roedd e'n wirioneddol bleserus eu gweld nhw'n datblygu a gweld pobl yn eu harddegau, fel Owain, yn sylweddoli pa mor dda oedden nhw a chael gymaint o bleser yn mynd i'w gweld nhw.

Mae gyda Owain a fi berthynas hawdd iawn, ac mae ganddon ni yr un math o ddiddordebau - mewn chwaraeon a cherddoriaeth.

Dyw e ddim yn uchel ei gloch am y pethe y mae e'n dda ynddo, ond mae e'n redwr da iawn. Dwi wedi bod â diddordeb mawr mewn rhedeg hefyd, fel gyda phêl-droed - ond mae e'n well na fi mewn pêl-droed a rhedeg!

Ry'n ni'n cyd-dynnu'n hawdd iawn, mae'n siŵr bod 'na rywfaint o anghytuno 'di bod, ond dwi ddim yn ei gofio fe. Dwi'n teimlo agosatrwydd at Owain fel y plant eraill. Dwi'n lwcus iawn.

So chi'n lico canmol eich plant chi ormod, ond ni'n lwcus iawn i gael mab fel Owain a'r tri plentyn arall hefyd.

Cyhoeddwyd llyfr wedi ei ysgrifennu ar y cyd gan Toni ac Owain Schiavone am hanes Y Cyrff, sef 'Llawenydd heb Ddiwedd: Atgofion drwy caneuon Y Cyrff'ar 17 Gorffennaf.

Hefyd o ddiddordeb: