Ffrwydrad garej Pont-y-pŵl: 'Marwolaeth ddim yn amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau nad yw marwolaeth dyn yn dilyn ffrwydrad mewn garej ym Mhont-y-pŵl yn cael ei thrin fel un amheus.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Y Dafarn Newydd ger Pont-y-pŵl am tua 11:10 fore Llun yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad mewn stad o dai.
Bu farw dyn 32 oed yn y fan a'r lle, ac mae'r teulu'r bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu ddydd Llun bod y ffrwydrad wedi achosi "difrod sylweddol i'r eiddo".
Mae cwmni Wales and West Utilities wedi dweud nad oedd y ffrwydrad yn gysylltiedig â'r cyflenwad nwy i'r eiddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019