Chwech o drawiadau ar y galon yng ngwres y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
llawn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwres yn danbaid ar faes y Sioe Fawr ddydd Mawrth

Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol wedi cadarnhau bod chwech o ymwelwyr i'r maes wedi cael trawiad ar y galon yn y digwyddiad ers dydd Sul, wrth i'r tymheredd godi i hyd at 28C.

Cafodd tua 120 o bobl eu trin yng nghanolfan feddygol y sioe ddydd Mawrth, ac mae yna amcangyfrif bod 20 o'r achosion wedi codi yn uniongyrchol o ganlyniad i'r gwres.

Dywedodd Uwch Feddyg y sioe, Dr Roger Cooke: "Rydym wedi cael nifer uwch na'r disgwyl o bobl yn cael trawiad ar y galon."

Ychwanegodd bod y tywydd poeth hefyd wedi effeithio ar iechyd 20 yn rhagor o bobl oedd â chyflyrau meddygol cyn cyrraedd y sioe.

Ond mae'r ganolfan wedi delio â llai o bobl na'r arfer eleni oedd angen cyngor neu driniaeth at drafferthion iechyd yn ymwneud ag alcohol.

Am y tro cyntaf mae gan elusen Ambiwlans San Ioan uned yng nghanol Llanfair-ym-Muallt er mwyn trin pobl yn ystod y sioe flynyddol.

Dywedodd Dr Cooke bod y galw am wasanaeth y ganolfan iechyd gyda'r nos "wedi gostwng o ganlyniad i'w hymdrechion nhw".