Carcharu gweithiwr ysbyty am werthu gliniaduron y GIG

  • Cyhoeddwyd
Neil RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil Stephen Roberts yn gweithio fel technegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae gweithiwr mewn ysbyty yn Wrecsam wedi cael ei garcharu wedi iddo werthu gliniaduron y Gwasanaeth Iechyd ar y we.

Cafodd Neil Stephen Roberts, 38 oed, ei ddedfrydu i 20 mis dan glo ar ôl iddo'i gael yn euog o'r twyll gwerth £18,000.

Clywodd Llys y Goron Y Wyddgrug bod Roberts, cyn-dechnegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi gwerthu offer newydd sbon ar wefan eBay a defnyddio hen offer cyfrifiadurol yn y gweithle.

Dywedodd y barnwr Timothy Petts fod y drosedd yn un difrifol gan ei fod wedi cymryd arian i ffwrdd o'r hyn fyddai ar gael i ofalu am gleifion.

'Cymryd mantais'

Clywodd y llys bod Roberts wedi "cymryd mantais o system archwilio sâl" yr ysbyty.

Dywedodd yr erlyniad bod gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael eu tynhau yn 2015, ond cyn hynny roedd "pwyslais mawr yn cael ei roi ar ymddiriedaeth yn yr unigolyn".

Roedd Roberts wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn tan ychydig wythnosau cyn dechrau'r achos.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth y gŵr gyfaddef i ymddwyn yn anonest a chymryd mantais o'i swydd rhwng Mehefin 2013 a mis Mawrth 2017.

Bydd yr arian gafodd ei golli o ganlyniad i'r twyll yn cael ei ad-dalu o bensiwn GIG y diffynnydd.