Cyngor Sir y Fflint am leihau gofal plant tu hwnt i'r sir
- Cyhoeddwyd
Mae awdurdod lleol yn cynyddu ei ymdrechion i leihau nifer y plant mewn gofal sy'n derbyn gofal y tu allan i ffiniau sirol.
Yn gynharach yn yr wythnos, cymeradwyodd Cyngor Sir y Fflint fesurau i haneru biliau treth cyngor ar gyfer gofalwyr maeth er mwyn ceisio lleihau'r gost gynyddol o leoliadau y tu allan i'r sir.
Y llynedd, gorwariodd y cyngor bron i £1.4m drwy dalu am ofal dros 150 o blant y tu allan i'r ardal.
Mae adroddiad bellach wedi'i gyhoeddi yn amlinellu camau i gynyddu nifer y gofalwyr maeth lleol.
Mae'n cynnwys darparu hyfforddiant i helpu pobl i ofalu am bobl ifanc ag anghenion cymhleth.
Daw ar ôl i brif swyddog gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod ddweud nad oedd digon o bobl yn cynnig gofal i bobl ifanc hŷn.
Yn yr adroddiad, dywedodd Neil Ayling: "Mae'r sector gofal maeth yn wynebu nifer o heriau yn lleol ac yn genedlaethol.
"Yn arbennig, mae galw mawr am leoliadau maeth yn lleol ac mae Cyngor Sir y Fflint yn dal i fethu â bodloni'r galw am leoliadau.
"Ar hyn o bryd mae gormod o ymholiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn maethu babanod a/neu blant ifanc.
"O ystyried y boblogaeth o blant sy'n derbyn gofal, mae'r galw am ofalwyr maeth sydd â'r sgiliau a'r profiad i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau a grwpiau o frodyr a chwiorydd."
Dywedodd mewn achosion ble nad oes modd gofalu am blant o fewn Sir y Fflint, fe allan nhw gael eu lleoli mewn rhannau eraill o Gymru, neu rannau o Loegr.
'Camdriniaeth'
Mae ffigyrau'n dangos fod cyllid Cyngor Sir y Fflint ar gyfer gofal plant yn 2017/18 yn £7.8m - gyda 65% o'r swm yn cael ei wario ar ofal y tu hwnt i'r sir.
Ar gyfartaledd, fe wariodd yr awdurdod £21,562 am bob plentyn oedd yn derbyn gofal. Y cyfartaledd cenedlaethol oedd £20,970.
Yn ddiweddar, bu cynnydd o 10% yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, yn cynyddu o 219 ar ddiwedd mis Mawrth 2018 i 241 ar yr un dyddiad eleni.
Dywedodd Mr Ayling mai'r prif resymau dros bobl ifanc yn symud i ofal oedd camdriniaeth neu esgeulustod a chamweithrediad teuluol.
Bydd dull y cyngor o leihau lleoliadau y tu allan i'r sir yn cael ei drafod yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019