Gofal plant am ddim i rieni Cymru erbyn Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd
Bydd pob rhiant yng Nghymru yn gallu cael gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.
Cafodd y polisi ei feirniadu'n wreiddiol am ei fod wedi cael ei gyflwyno mewn rhai ardaloedd ym mis Medi 2017, tra bod eraill yn gorfod aros tan 2020.
Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno gofal plant am ddim i bawb erbyn mis Ebrill 2019.
Bydd yn golygu bod rhieni yn derbyn 20 awr o ofal plant am ddim yn ychwanegol i'r 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar sy'n bodoli'n barod.
Cyflwyno'n gynt na'r disgwyl
Dywedodd cefogwyr y cynllun ei fod "torri tir newydd" ac mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn ymdrechu i "leihau'r pwysau" a sicrhau nad yw cost gofal plant yn rhwystro rhieni rhag dychwelyd i'r gwaith.
Ar hyn o bryd, dim ond wyth o 22 o awdurdodau lleol Cymru sydd â'r cynllun ar waith yn llawn, ac mae ar gael yn rhannol mewn chwe awdurdod.
Ond, yn dilyn beirniadaeth am y ffaith fod rhai teuluoedd yn elwa yn fwy na'i gilydd, mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno'n gynt.
"Rydym wedi bod yn gwbl glir bod y cynllun yn cael ei gyflwyno fesul dipyn," dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Fodd bynnag, rydym yn ddiweddar wedi cyflymu'r broses o roi'r cynllun ar waith, sy'n golygu y bydd 18 awdurdod lleol yn darparu'r cynnig erbyn mis Ionawr, gyda'r pedwar awdurdod lleol arall yn cyflwyno'r cynllun erbyn Ebrill 2019."
Erbyn y flwyddyn newydd, bydd ar gael yn llawn yn Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Blaenau Gwent, Torfaen, Merthyr Tudful, Casnewydd a Sir Fynwy ac mewn rhannau o Bowys.
Erbyn mis Ebrill, fe fydd yn cael ei gyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Sir Benfro, ac yna gweddill Powys.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae'n rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio ac mae'n rhaid i'r darparwr gofal ymuno â'r cynllun.
'Newid anferth'
Mae Louise Macken, sy'n rhedeg meithrinfa Footsteps yn y Trallwng ym Mhowys wedi croesawu'r cyflwyno cynharach, ond fe ychwanegodd ei bod eisiau ei weld yn "cael ei wneud fel y dylai gael ei wneud".
"Dylai meithrinfeydd gael eu digolledu'n ddigonol, sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o beth i'w ddisgwyl a beth mae eu plant yn rhan ohono, a bod y sir yn gallu darparu'r adnoddau, cyrsiau hyfforddi a'r hyn sy'n angenrheidiol er mwyn darparu'r 30 awr yna," meddai.
Fe alwodd Ms Macken y cynllun yn "newid anferth" a ddylai gael ei wneud yn araf a gofalus er mwyn sicrhau bod pob sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol.
Cafodd hyn ei adleisio gan Cerys Furlong o'r elusen Chwarae Teg, a ddywedodd ei fod yn wynebu nifer o heriau.
"Mae'n bosib na fydd yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, ac mae'r oedran ar gyfer bod yn gymwys i'r cynllun yn golygu ei fod yn rhy hwyr i gefnogi rhieni sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith."
Mae gan Matt Slape a Fiona Davey o Gasnewydd dau o blant ac maent yn bwriadu defnyddio'r cynllun pan fydd ei merch tair wythnos oed, Ophelia, yn hŷn.
"Mae'n golygu ein bod yn gallu elwa'n ariannol pan eith Fiona yn ôl i'w gwaith ac nad ydym yn gwario cyfran fawr o'n harian ar ofal plant," dywedodd Mr Slape.
"Petawn yn defnyddio 12 diwrnod y mis am £42 y diwrnod, mae'n golygu ein bod yn arbed £504 bob mis. Mae'n golygu y gall Fiona ddychwelyd i'w gwaith llawn amser yn hytrach na rhan amser."
Dywedodd Charlotte Harding, sy'n rhedeg gwefan Welsh Mummy Blogs: "Bydd yn gwneud pethau'n haws i nifer o deuluoedd.
"Ar hyn o bryd, mae'n rhatach i famau aros adref yn hytrach na mynd i'r gwaith."
Dywedodd y byddai'r cynllun hefyd yn gymorth i famau sengl sy'n dibynnu ar fudd-daliadau am nad ydynt yn gallu fforddio gofal plant petaent yn gweithio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017