Jordan Ayew yn gadael Abertawe am Crystal Palace
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymosodwr profiadol, Jordan Ayew wedi gadael Abertawe er mwyn ymuno â Crystal Palace.
Y gred yw bod Ayew, 27 oed o Ghana, yn ymuno â'r clwb o'r Uwch Gynghrair am ffi o tua £2.5m.
Fe dreuliodd Ayew dymor ar fenthyg yn Palace y llynedd gan lwyddo i sgorio dwy gôl mewn 25 gêm.
Fe sgoriodd gyfanswm o 12 gôl mewn 58 gêm i'r Elyrch ers iddo symud i dde Cymru o Aston Villa ym mis Ionawr 2017.

Wilmot yw'r ail chwaraewr i ymuno â'r Elyrch dros yr haf
Daeth cadarnhad hefyd bod Abertawe wedi arwyddo'r amddiffynnwr ifanc, Ben Wilmot ar fenthyg o Watford.
Fe chwaraeodd Wilmot, 19 oed, chwe gêm i Watford y llynedd cyn mynd ar fenthyg yn Udinese - sy'n chwarae ym mhrif adran yr Eidal.
Wilmot yw'r ail chwaraewr i ymuno â'r Elyrch ers i Steve Cooper gael ei benodi fel rheolwr, gan ymuno â Jake Bidwell yn Stadiwm Liberty.
Bydd Abertawe yn dechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth eleni gyda gêm yn erbyn Hull ar 3 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2019