Prif Ohebydd Newyddion 9 yn ymuno â thîm Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aled ap Dafydd

Mae Prif Ohebydd Newyddion 9, Aled ap Dafydd wedi cael ei benodi i swydd "newydd, allweddol" Cyfarwyddwr Strategaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Allanol Plaid Cymru.

Mae'n gadael BBC Cymru wedi dros 20 mlynedd ac yn dechrau ar ei swydd newydd ddiwedd yr haf.

Fe ddechreuodd fel gohebydd chwaraeon cyn symud i'r adran wleidyddol ac yna'n brif ohebydd prif raglen newyddion S4C.

Dywedodd cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones, y bydd "yn chwarae rhan allweddol" yn ymgyrch yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Bydd Mr ap Dafydd yn cydweithio'n agos ag aelodau etholedig y blaid, y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, a'r tîm staff presennol "i gyflawni strategaeth wleidyddol y blaid i ennill etholiad y Senedd yn 2021".

'Lledaenu ein neges'

Wrth edrych ymlaen at ei groesawu i dîm Plaid Cymru, dywedodd Mr Jones y bydd yn "ychwanegiad ardderchog".

"Mae'n dod gydag ef ddegawdau o brofiad a fydd yn werthfawr tu hwnt i ni wrth i ni barhau i ledaenu ein neges gadarnhaol gyda phobl ledled Cymru," meddai.

"Mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref ac rydym ar y ffordd i ffurfio'r llywodraeth nesaf. Bydd Aled yn chwarae rhan allweddol wrth lywio ein strategaeth wleidyddol a'n negeseuon cyn yr etholiad."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn "hapus dros ben fod Aled yn ymuno â ni" mewn cyfnod arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth y DU.

"Mae Plaid Cymru'n mynd o nerth i nerth," meddai, "o ddod yn brif blaid Aros yn yr etholiadau Ewropeaidd i'r arweinyddiaeth ddangosom trwy weithio ar draws y pleidiau er mwyn curo Brexit.

"Bydd ganddo gyfraniad pwysig i'w wneud i gyflawni ein gwaith a chadw'r momentwm i fynd fel bo Plaid Cymru'n ffurfio'r llywodraeth nesaf - rhywbeth sydd ei angen yn arw ar Gymru."