Geraint Thomas yn disgyn i'r trydydd safle yn y Tour
- Cyhoeddwyd
Cymal 18 oedd y cymal lle'r oedd nifer o sylwebwyr yn credu y byddai Julian Alaphilippe yn dechrau colli tir gan roi cyfle i Geraint Thomas ei ddal.
Ond ar y cymal mynyddig rhwng Embrun a Valloire, Egan Bernal oedd yr enillydd mwyaf.
Nairo Quintana enillodd y cymal gan reidio ar ei ben ei hun am gyfran helaeth o'r cymal.
Ond cyd-aelod Thomas yn Team Ineos, Egan Bernal, oedd yr un i dorri'n glir o'r peloton i ennill amser ar Alaphilippe.
Ar y ddringfa olaf fe wnaeth Thomas hefyd dorri'n glir am gyfnod byr, gan godi gobeithion Team Ineos o fod yn gyntaf ac ail ar ddiwedd y dydd.
Ond roedd Alaphilippe yn gryfach na'r disgwyl, ac fe ddaeth yn ôl i orffen gydag amser cyfartal i Thomas er iddo golli tir ar Bernal.
Mae sefyllfa Team Ineos yn atgoffa cefnogwyr o sefyllfa Team Sky y llynedd pan brofodd Geraint Thomas ei fod yn gryfach nag arweinydd y tîm, Chris Froome, cyn mynd ymlaen i ennill y Tour.
Gyda Bernal bellach bum eiliad o flaen Thomas yn y GC (General Classification) mae'n bosib y bydd Team Ineos yn ystyried pa un o'r ddau sydd fwyaf tebygol o orffen ar y brig ddydd Sul wrth feddwl am eu tactegau am weddill y ras.
Canlyniad Cymal 18: Embrun - Valloire
1. Nairo Quintana
2. Romain Bardet
3. Alexey Lutsenko
Safleoedd GC Tour de France 2019
1. Julian Alaphilippe - 75 awr 18 munud 39 eiliad
2. Egan Bernal - +1 munud 30 eiliad
3. Geraint Thomas - +1 munud 35 eilad
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019