Arestio dyn a menyw wedi'i heddlu arfog gael eu galw i dŷ
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a menyw wedi cael eu harestio ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i ardal Gorseinon ger Abertawe.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i dŷ ar Stryd y Drindod brynhawn Sadwrn.
Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi wrth i swyddogion ymchwilio, ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i'w cartrefi.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 41 oed a menyw 39 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o fod ag arf yn eu meddiant.
Cafodd y dyn hefyd ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod. Mae'r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu wedi diolch i drigolion lleol am eu hamynedd yn ystod y digwyddiad.