Ymateb y Cymry i Thomas ac i ddiwedd y Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae'n un o rasys seiclo enwocaf a mwyaf heriol y byd - 3,480 cilometr dros 21 cymal gyda 176 o seiclwyr yn cynrychioli 22 o dimau ar fîn dod i ben.
Mae disgwyl bydd y Cymro Geraint Thomas yn gorffen yn ail gyda'r gŵr o Colombia, Egan Bernal yn arwain yn mynd fewn i'r cymal olaf.
Mae'r cymal olaf yn wahanol i weddill y Tour, gyda thraddodiad nad oes unrhyw un yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn.
Er na fydd Thomas yn ennill y râs am yr ail flwyddyn yn olynol, mae pennaeth tîm Ineos, Syr Dave Brailsford wedi disgrifio ei gamp o orffen yn ail yn "groes i'r disgwyl."
'Awyrgylch grêt'
"Mae wedi cael râs wych. Pan mae rhywun yn ennill y Tour de France am y tro cyntaf, dydyn nhw byth fel arfer yn dychwelyd ac yn gwneud yn dda y tymor canlynol," meddai.
Mae'r Tour de France wedi cydio yn nychymyg cefnogwyr o bedwar ban, a llwyddiant Geraint Thomas y llynedd sy'n golygu fod mwy o Gymry ymhlith y miliynau sy'n dod i wylio a chefnogi.
Yn Saint-Michel-de-Maurienne ar droed yr alpau roedd Gwenda Williams o Ddyffryn Conwy. Roedd hi yno gyda'i mab Dewi i ddathlu carreg filltir arbennig.
"Dyma presant pen-blwydd fi i ddod yma. Dwi'n dwli efo'r beics ers ugain mlynedd, yn dallt y peloton a'r pethau 'ma i gyd. Mae'r awyrgylch yn grêt"
Pan ofynnwyd i Geraint Thomas cyn dechrau'r Grand Depart ym Mrwsel sut ras oedd hi am fod, ateb y Cymro oedd "un ddiffwdan, gobeithio".
Chafodd ef mo'i ddymuniad - diolch i gyfuniad o stormydd, cesair a thirlithriadau. Heriau a fu'n drech nag aelodau clwb seiclo Cefneithin hefyd.
O dan haul crasboeth fe seiclon nhw i gopa Col du Lautaret i wylio cymal 18.
Dylanwad Geraint
Ond yn ôl Jonathan Davies fe gawson nhw anffawd ar y ffordd i lawr - tirlithriad yn cau'r ffordd a gorfod i'r criw aros gyda theulu mewn gite dros nos.
Gyrru dros 800 o filltiroedd o ardal Llantrisant wnaeth Rhodri Evans a'i fab Tomos.
Er profi golygfeydd godidog y col D'Iseran a chyffro'r copaon, i'r llinell derfyn yn Tignes aethon nhw i wylio diwedd cymal 19 - cymal na chafodd ei gwblhau oherwydd y stormydd yn yr ardal.
Siom i Tomos a oedd wedi gobeithio gweld ei arwr, ond antur fythgofiadwy er hynny.
Cyfuno gwyliau seiclo ar lan llyn Annecy a dilyn y tour oedd Elen ap Gwilym a'r teulu o'r Bala. "'Da ni i gyd yn seiclo felly 'da ni'n dod yma beth bynnag.
"Dwi'n athrawes Ffrangeg felly dwi'n gallu ymarfer fy Ffrangeg. Dyma'r ail waith mae'r tour yn pasio heibio tra 'da ni yma".
'Arwydd da'
I'w mab Gruffudd sydd hefyd yn blogio am y gamp, mae'n baradwys. "Mae'r ras wedi bod mor gyffrous eleni… mae lot fawr o bobl wedi bod allan ar y tour eleni efo'u baneri Cymru.
"'Da ni wedi gweld mwy nag o'r blaen dwi'n meddwl ac mae hynny yn arwydd da fod Geraint yn cael dylanwad arnon ni fel Cymry," meddai.
Gyda'r ras yn dod i ben nos Sul, fe ychwanegodd Dave Brailsford ei bod hi'n "bleser gweithio" gyda Geraint Thomas.
"Mae Geraint wedi mynd yn groes i'r disgwyl ac fe allai fod wedi ennill y ras. Mae'n berson têg gyda balans ac roedd eisiau ennill.
"Ond pan ddaeth y cyfle i'r tîm ennill roedd 100% y tu ôl i hynny ac mae'n bleser gweithio gydag ef," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019