Trin marwolaeth afon Nedd fel achos o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod nawr yn trin marwolaeth dyn gafodd ei ddarganfod ar lannau afon Nedd y llynedd fel achos o lofruddiaeth.
Daeth adroddiadau ym mis Ionawr 2018 fod Richard Andrews, 49 oed o ardal Melyn yng Nghastell-nedd, ar goll, ond nid oedd wedi'i weld ers 16 Medi 2017.
Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i'w gorff ar lannau afon Nedd yn Sgiwen ar 29 Medi 2018.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Darren George bod "yr amgylchiadau o amgylch marwolaeth Richard wedi cael eu hymchwilio'n drwyadl ac rydyn ni nawr yn amau ei fod wedi'i lofruddio".
"Roedd Richard yn unigolyn bregus ac rwy'n credu efallai bod rhywun wedi cymryd mantais ohono," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd bod y llu yn credu fod Mr Andrews wedi bod mewn cysylltiad â gwerthwyr cyffuriau o ardal Lerpwl, oedd yn gweithredu yn ne Cymru, cyn iddo ddiflannu.
Mae'r llu yn apelio am gymorth cymunedau Castell-nedd a Llansawel i geisio sefydlu'r hyn a ddigwyddodd i Mr Andrews.
Mae elusen Taclo'r Tacle'n cynnig gwobr o hyd at £10,000 am wybodaeth sy'n arwain at ddedfrydu'r rhai a oedd gyfrifol am y farwolaeth.