Pryder teulu y bydd yna ddamwain arall yn y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Teulu marwolaeth Sioe: 'Bron i ni weld trasiedi arall'

Mae teulu ffermwr ifanc a gafodd ei ladd mewn damwain ffordd ger maes Y Sioe Frenhinol 15 mlynedd yn ôl yn dweud nad ydy mesurau diogelwch newydd y Sioe yn ddigon da.

Ar ôl ymweld â Llanelwedd yr wythnos ddiwethaf, mae teulu Elgan Williams o Henllan ger Dinbych yn grediniol y bydd yna ddamwain arall os na fydd adolygiad pellach o drefniadau diogelwch y ffyrdd.

Dywedodd ei rieni, Bob a Nan Williams, wrth Newyddion 9 eu bod wedi gweld car yn taro person ifanc ger maes y sioe eleni wrth gerdded yn ôl o Lanfair-ym-Muallt un noson.

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Diogelwch Llanfair-ym-Muallt eu bod yn "parhau i gadw llygad ar y sefyllfa, a bydd mesurau diogelwch eleni yn destun trafodaeth pan fydd y grŵp diogelwch yn cwrdd fis nesaf, a bydd sylwadau'r teulu yn cael eu hystyried bryd hynny".

Cefnogi eu merch

Bu farw Elgan yn 17 oed yn 2004, ar ôl cael ei daro gan gar wrth gerdded ar hyd yr A470.

Wedi cyfnod o gadw draw o'r sioe, maen nhw wedi dychwelyd i aros yno fel teulu yn ddiweddar er mwyn cefnogi eu merch, oedd yn cystadlu.

Dywedodd Mr Williams: "Wir, mi fydd rhaid i wbath ddigwydd yna, neu fydd yna ddamwain arall, does na'm byd sicrach, a sgena i na Nan isio gweld dim byd tebyg i hynny'n digwydd eto, i be' 'dan ni wedi bod drwddo fo.

"'Da ni jest yn teimlo ma' rhaid i rywun gychwyn rhywbeth, achos 'dan ni ddim isio neud hyn, ond dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ar ran teuluoedd eraill."

Dywedodd Mrs Williams ei bod yn crynu gyda sioc ar ôl gweld car yn taro person ifanc yr wythnos ddiwethaf.

Rhan o'r broblem, maen nhw'n teimlo, yw bob nifer o bobl ifanc ddim yn fodlon talu i deithio ar y bysus mini sy'n cael eu darparu wrth adael neu gyrraedd bar ar y maes.

Cau'r ffordd am gyfnod

Mae'r cwpwl hefyd yn pryderu nad ydy trefniadau diogelwch yn mynd yn ddigon pell y tu hwnt i safle'r sioe ei hun, wrth i gannoedd o bobl gerdded gyda'r nos rhwng y maes a chanol Llanfair-ym-muallt.

"Fasa'r bobl sydd yn Builth ddim yna heb law am y Sioe... ma' rhaid iddyn nhw gymryd dipyn bach o gyfrifoldeb o be sydd yn mynd ymlaen," meddai Mr Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd heddlu ger safle'r ddamwain a laddodd Elgan Williams yn 2004

Mae Mrs Williams yn llythyru'r trefnwyr ers tro ond yn anfodlon gyda'r ymatebion.

"Mae'r Sioe yn dweud, 'dyda ni ddim i wneud efo Penmaenau, dydi Penmaenau ddim byd i neud efo'r maes Ieuenctid'.

"Mae yna bump lle i gyd... os ti'n mynd i Glastonbury neu rhyw festival fawr, ti'n mynd o dan un ambarél. Ond ti'n mynd i'r Sioe, does yna neb isio cymryd cyfrifoldeb am y llall... ond i fynd i'r safleoedd yma, ma' rhaid i ti fynd ar y briffordd."

"Y peth mwyaf swn i'n licio, ond neith o'm digwydd, ydi cau'r ffordd yn y nos am hanner awr."

Dywedodd Mrs Williams bod ffrindiau o fewn y gymuned amaethyddol yn rhannu ei phryderon ynghylch diogelwch eu plant yn ystod wythnos y sioe.

"'Da ni gyd isio neud rhywbeth, ond 'da ni ddim yn gwybod be'... o be welish i, doedd yna ddim byd gwell ers llynedd ar ôl i mi gwyno, so gawn ni weld be ddaw blwyddyn nesa."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna nifer o newidiadau i drefniadau diogelwch y Sioe Fawr mewn ymateb i farwolaeth James Corfield yn 2017

Cafodd trefniadau diogelwch newydd eu cyflwyno ar gyfer sioe y llynedd, yn dilyn marwolaeth dyn 19 oed yn 2017.

Cafodd corff James Corfield ei ddarganfod yn Afon Gwy ar ôl iddo ddiflannu ar ôl noson allan.

Talodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am ffens ddiogelwch rhwng maes parcio'r Gro ar waelod y dref a'r afon.

'Problem pwy?'

Mae teulu Elgan Williams yn croesawu camau fel y gwasanaeth bugeiliaid stryd a chanolfan les yn y dref gyda'r nos.

Ond yn ôl ei chwaer, mae'r cynllun Llwybr Gwyrdd i amlygu llwybrau cerdded diogel rhwng y Pentref Ieuenctid a chanol Llanfair-ym-Muallt yn annigonol.

"Ma' fatha bod plentyn wedi sgwennu ar lawr, efo jest llinell gwyrdd a sign yn deud 'ffordd gwyrdd'," meddai Elen Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Williams yn dweud nad ydi hi'n teimlo'n ddiogel wrth gerdded rhwng maes y sioe a chanol y dref

"[Tasa'r trefnwyr] yn gweld y fath bobol sydd ar y ffordd yn mynd ar hyd y bont... oni'n disgwyl railings yna 'leni, ond doedd na ddim."

"Un noson 'es i gerdded lawr llwybr wrth ymyl Y Green. 'Dwi erioed wedi bod ar y llwybr o'r blaen, o'dd hi'n hollol dywyll. O'ni yn iwsio torches ni, o'ni methu gweld y person drws nesa' i ni.

"O'na drop anferth lawr i'r afon... pwy sydd i fod i 'neud wbath am y peth? 'Dio'n broblem i'r Sioe, dio'n broblem pwy?

"Ar y nos Sadwrn es i lawr i Builth, ond aru fi jest fynd yn ôl. Oni jest mor drist a blin... nes i weld y bobol 'ma yn cerdded, ac odd o jest yn ormod i fi, achos oedden ni newydd fynd a bloda' i lle oedd damwain Elgan."

Llwybr gwyrdd

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Diogelwch Llanfair-ym-Muallt: "Rydym wedi cyflwyno nifer o nodweddion i sicrhau diogelwch a lles ymwelwyr i'r Sioe Fawr eleni, ac mae diogelwch ar hyd y gefnffordd yn eitem sefydlog ar agenda'r grŵp hwn."

"Eleni eto gwelwyd y 'Llwybr Gwyrdd' o dref Llanfair-ym-Muallt i Faes y Sioe, Fferm Penmaenau a'r Pentref Ieuenctid. Cafwyd mwy o arwyddion ar hyd y llwybr hwn, fel ei wneud yn glir i ymwelwyr oedd yn defnyddio'r llwybr.

"Cafodd cilfannau ar hyd y llwybr eu cau fel bod ymwelwyr yn aros ar y llwybr gwyrdd, a chafodd goleuadau stryd eu gwirio a'u clirio o unrhyw wair o'u cwmpas fel bod y llwybr i'r Pentref ieuenctid yn olau ac yn amlwg i ddefnyddwyr. Roedd cyfyngiad cyflymder dros dro o 30 milltir yr awr ar waith ar y rhan hon o'r ffordd yn ystod yr wythnos, a chynyddwyd nifer yr arwyddion rhybudd cynnar.

"Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt yn parhau i gadw llygad ar y sefyllfa, a bydd mesurau diogelwch eleni yn destun trafodaeth pan fydd y grŵp diogelwch yn cwrdd fis nesaf, a bydd sylwadau'r teulu yn cael eu hystyried bryd hynny."