Sut i ymdopi gyda'r plant dros wyliau'r haf

  • Cyhoeddwyd
Angharad, Huw a'r teuluFfynhonnell y llun, Angharad Owen

Mae Angharad Owen yn byw ger Llandysul ac yn fam i bedwar o blant o dan 8 oed; Erin, Ifan a Harri sy'n efeilliaid, a Tomi. Mae chwech wythnos o wyliau haf yn gallu bod yn dipyn o ben tost i feddwl beth i'w wneud a chadw pawb yn hapus.

Dyma sut mae Angharad yn ymdopi yn ystod yr haf - ac mae ganddi ambell i syniad unigryw am sut i gadw'r plant i wenu:

Peidio panicio

Y tip cynta' i gyd fydden i'n dweud yw i beidio panicio! Gan bod Huw y gŵr yn ffarmwr ac yn gweithio oriau hir a'r rhan fwya' o ddyddie, dwi fel arfer yn mynd allan gyda'r plant ar ben fy hunan.

Dwi wastad yn meddwl, os ydw i'n mynd i unrhyw le a dydy pethe ddim yn gweithio ma's, y peth gwaetha' alle ddigwydd yw y byddwn ni'n gorfod mynd adre'!

Os yw plentyn yn cael tantrym, does dim ots! Mae pob plentyn yn cael tantryms weithiau, a dydy e ddim yn ddiwedd y byd.

Tywydd yn braf? Ma's i'r ardd!

Yn y tywydd twym yn ddiweddar, roedd y pwll padlo yn yr ardd yn grêt a chadw'r pedwar yn hapus trwy'r dydd, gyda'r sleid yn glanio mewn i'r dŵr. Er ei fod yn teimlo'n lot o waith i osod popeth i fyny, roedd werth yr ymdrech am ddiwrnod cyfan o hwyl.

Rhaid bod yn onest, mae pwsho'r plant ar y siglen yn gallu bod yn flinedig ar ôl sbel - felly'n ddiweddar nes i glymu rhaff wrth bob siglen, eistedd yn yr ardd a thynnu! Roedd pawb yn hapus!

Ffynhonnell y llun, Angharad Owen

Cynllunio

Os ydw i yn mynd i ddigwyddiad fel yr Eisteddfod neu i ŵyl deuluol, dwi wedi dysgu fy ngwers, ac yn gwneud fy ymchwil cyn mynd! Rydw i wedi dod adre o ddigwyddiadau cyn hyn heb weld hanner y pethau oedd yno, am nad o'n i wedi cynllunio.

Felly, os oes amserlen i gael o flaen llaw, dwi'n trio dewis ambell i weithgaredd i siwtio pawb fel bod neb yn digalonni gormod a mae pawb yn gallu 'neud rhywbeth mae'n ei fwynhau. A trio peidio gosod disgwyliadau rhy uchel 'chwaith.

Paratoi, paratoi, paratoi

Lle bynnag dwi'n mynd, dwi'n 'neud yn siŵr bod digon o fwyd, diod a snacs wrth law. Dwi'n trio adnabod yr arwyddion, a rhoi bwyd i'r plant cyn eu bod nhw'n sylweddoli eu bod nhw ei angen - er mwyn osgoi'r dagrau!

Ac ambell waith, mae'n rhaid plygu a phrynu'r losin neu hufen iâ, er mwyn hwyluso'r diwrnod.

Hefyd, yn dibynnu ar oedran y plant, mae gen i fag yn llawn o deganau a llyfrau. Dwi'n dueddol o bacio pethau yn y bag dyw'r plant ddim yn eu gweld yn aml adre', fel bod gyda nhw fwy o ddiddordeb ynddyn nhw pan y'n ni ma's, yn arbennig os ydyn ni'n mynd ma's i fwyta ac angen eu diddanu nhw wrth aros am fwyd.

Ffynhonnell y llun, Angharad Owen

Aros adre'? Byddwch yn barod!

Os mae'n bwrw glaw a does dim opsiwn ond i aros yn y tŷ - y gyfrinach eto, dwi'n meddwl, yw i baratoi - ac i beidio disgwyl gormod.

Gyda gweithgaredd fel peintio, peidiwch â disgwyl iddo bara' trwy'r prynhawn. Dwi'n meddwl weithie, dwi'n mynd i fod yn supermum heddi', ond er yr holl baratoi, bydd y plant wedi cael digon ar ôl deg munud. Felly dwi wedi dysgu i fod yn barod am hynny a go big!

Un tip ydy i rolio papur mawr ar hyd y llawr i gyd a'u tapio nhw at ei gilydd fel bod y llawr i gyd wedi ei orchuddio gyda phapur a gadael y plant yn rhydd gyda phensiliau lliw neu paint sticks. Dwi'n gorwedd ar y llawr a chael y plant i wneud amlinelliad o'r corff, a gadael iddyn nhw beintio neu liwio. Gan bod hyn ar scale yn fwy, mae'n para'n hirach.

Pan oedd yr efeilliaid yn fach iawn, fe roddes i bapur ar lawr y playpen a gadael iddyn nhw gael hwyl gyda'r paent. Dyna beth oedd mess!

Mae creu slime hefyd yn lot o hwyl, mae'r plant i gyd yn gallu ymuno mewn.

Ffynhonnell y llun, Angharad Owen
Disgrifiad o’r llun,

Oriau o hwyl!

Fy nghyngor i ydy i fynd amdani a pheidiwch â bod ofn mess - allwch chi lanhau ar y diwedd fel rhan o'r gêm.

Unwaith dwi'n dechre dweud "paid" neu "na" i bopeth, mae'r plant yn digalonni. Os ydych chi'n dweud bod yn iawn i'r plant wneud mess, yna mae'n rhaid gadael iddyn nhw joio.

Dros wyliau Pasg fe wnes i gaer allan o focsys. Yr ail wythnos, fe wnaethon ni droi'r caer i mewn i maze. Diolch byth fe wnaeth hyn gadw'r plant yn hapus am orie!

A'r gwir yw, mae'n rhaid defnyddio'r teledu bob hyn a hyn. Er mwyn y plant - a'r rhieni! Weithiau, mae'n rhaid er mwyn cael amser i wneud unrhyw waith yn y tŷ.

Chwilio am beth sy' 'mlaen

Gan ein bod ni yn byw yng nghefn gwlad, dwi'n gwneud ymchwil i weld beth sy'n digwydd a llefydd i fynd. Peidiwch â bod yn ofnus i fynd i rywle newydd.

Pan symudais i i'r ardal, do'n i ddim yn 'nabod llawer, ond trwy fynd i ddosbarthiadau neu i'r ganolfan deuluol neu ganolfan hamdden, roeddwn i'n cyfarfod pobl newydd.

Mae hyn yn anodd, ond dwi'n trial cael amser un-wrth-un gyda'r plant, pan mae'n bosib. Dyw hynny ddim bob amser yn hawdd pan mae gennych chi sawl plentyn gwahanol oedran, ond dwi'n trio 'neud rhywbeth unigol sy'n siwtio'r plentyn.

Ffynhonnell y llun, Angharad Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau amser gydag Erin

Peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich hunan

Y peth pwysig fydden i'n dweud, os ydych chi'n cael diwrnod gwael neu anodd, yw peidiwch â phoeni.

Does neb yn berffaith, dim ots beth mae pobl yn ei weld - er gwaetha'r ddelwedd berffaith ar y cyfryngau cymdeithasol, mae pawb yn cael diwrnodau gwael. Weithiau, dwi'n edrych ar y cloc ac yn meddwl pryd mae amser gwely yn dod... Ac mae hynny yn iawn hefyd.

Os yw pawb yn OK a neb yn sâl, cadwch yn cool a joiwch yr haf!

Ffynhonnell y llun, Angharad Owen

Hefyd o ddiddordeb: