Syrthio ar ei fai am sarhau cyn-filwyr digartref

  • Cyhoeddwyd
Yr hysbyseb ar FacebookFfynhonnell y llun, Facebook

Mae perchennog busnes gosod pafin o Gonwy yn dweud ei fod "wedi gwneud camgymeriad mawr" trwy gyhoeddi mewn hysbyseb am staff ar ei dudalen Facebook na fyddai'n ystyried cyflogi "cyn-filwyr digartref".

Roedd Dean Craven o gwmni Quayside Paving and Landscape Services hefyd wedi datgan yn yr hysbyseb nad oedd â diddordeb mewn ceisiadau gan bobl sydd â phroblem alcohol, gamblo neu gyffuriau.

Fe gafodd lu o ymatebion beirniadol, yn enwedig ynghylch ei anfodlonrwydd i ystyried rhoi gwaith i'r cyn-filwyr

Mae Mr Craven wedi ymddiheuro, gan ddweud bod ei fod yn derbyn y feirniadaeth gan "lawer o bobl wirioneddol dda" oedd wedi "cynhyrfu" yn sgil geiriad yr hysbyseb.

"Does dim rhaid dweud bod hi'n ddrwg gen i," meddai.

Ychwanegodd bod sawl aelod o'i deulu yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog neu wedi bod yn aelodau yn y gorffennol, a byddai cymdeithas "yn ddim hebddyn nhw".

Dywedodd bod "ffrae gyda rhywun oedd yn digwydd bod yn gyn-filwr digartref" wedi ei ddylanwadu.

Mae hefyd yn dweud nad yw'n gwybod pa mor ddifrifol yw digartrefedd ymhlith cyn-filwyr ac yn gobeithio y bydd y ffrae dros ei hysbyseb yn codi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ynghylch y broblem.