Arian 'ddim yn ddigon i osgoi chwalfa' Brexit

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns, Boris Johnson a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson gydag Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns a Mark Drakeford ddydd Mawrth

Bydd yr arian ychwanegol sydd wedi ei roi heibio ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ddim yn gwneud yn iawn am y "difrod" fydd yn cael ei achosi i Gymru, yn ôl gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd £2.1bn ychwanegol ar gael ar gyfer paratoadau dim cytundeb.

Dywedodd Boris Johnson y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref, gyda neu heb gytundeb.

Fe wnaeth prif weinidog Cymru Mark Drakeford rybuddio Mr Johnson yn ystod ei ymweliad â Chymru ddydd Mawrth am "effaith andwyol" Brexit.

Yn siarad ar ymweliad gyda fferm ieir yn ardal Casnewydd dywedodd Mr Johnson: "Nid ein nod yw Brexit heb ddim cytundeb, ac nid ydym yn credu mai dyna beth fydd yn digwydd.

"Mae hyn yn bennaf yn fater i'n ffrindiau a'n partneriaid ochr arall y sianel."

Mae'r arian ychwanegol i gynllunio ar gyfer dim cytundeb wedi ei glustnodi ar gyfer llywodraeth y DU, a llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe fydd £1bn arall ar gael pe bai angen.

92 diwrnod

Wrth gyhoeddi'r wybodaeth am yr arian ychwanegodd ddydd Iau, dywedodd y Canghellor Sajid Javid ei bod yn "holl bwysig" i baratoi ar gyfer pob sefyllfa posib.

"Gyda 92 diwrnod ar ôl tan fod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mae'n anghrediniol ein bod yn canolbwyntio ar ein cynllunio er mwyn sicrhau ein bod yn barod," meddai.

"Rydym am gael cytundeb da sy'n cael gwared ar y 'back-stop" annemocrataidd.

"Ond os na allwn gael cytundeb da, yna bydd yn rhaid gadael heb gytundeb."

Daw'r £2.1bn ar ben y £4.2bn sydd wedi ei roi ers 2016 ar gyfer paratoadau Brexit, gan y cyn ganghellor, Philip Hammond.

Disgrifiad o’r llun,

Guto Bebb: Ceidwadwyr yn erydu enw da fel plaid gofalus

Mae'r AS Ceidwadol, Guto Bebb, sy'n cefnogi aros yn y UE, wedi dweud fod enw da ei blaid fel un cyfrifol mewn materion ariannol yn cael ei erydu a hynny ar "allor ymlyniad i Brexit heb gytundeb".

Mewn erthygl ar wefan Times Red Box dywedodd AS Aberconwy: "Mae gofal ariannol ac aberthiadau'r ddegawd flaenorol yn mynd i gael eu gwastraffu, nid ar wella gwasanaethau cyhoeddus, gwella amddiffyn na chwaith ymdrechion i ddelio gydag anghyfartaledd incwm, ond ar yr hyn mae ein llywodraeth newydd yn ei gredu sy'n fwy pwysig, sef achub eu henwau da."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Ar ei ymweliad â de Cymru fe gafodd prif weinidog y DU wybod yn union am effaith andwyol y byddai Brexit yn ei gael ar Gymru.

"Bydd yr arian ychwanegol sy'n cael ei gynnig gan y Trysorlys ddim yn dod yn agos at wneud yn iawn am y difrod fydd y fath agwedd 'doed a ddelo' i Brexit yn ei gael ar gymunedau a diwydiannau yng Nghymru."