Pysgod yn marw yn Nhorfaen oherwydd gormod o chwyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r pysgotwyr yn pryderu y bydd mwy o bysgod yn trigo yn fuan os nad yw'r dŵr yn cael ei waredu o'r chwyn
Mae pysgod yn cael eu gadael i drigo mewn camlesi yn Nhorfaen am eu bod yn cael eu mygu gan chwyn, yn ôl un grŵp o bysgotwyr.
Yn ôl grŵp Carpiaid y Cymoedd mae'r cyngor sir yn methu yn eu gwaith o glirio'r camlesi ac afonydd o amgylch Cwmbrân, ac maen nhw'n orlawn o chwyn.
O'r herwydd mae'r aelodau wedi dechrau clirio'r chwyn gyda rhacanau.
Yn ôl cyngor Torfaen maen nhw wrthi'n trefnu cyfarfod "cyn gynted â phosib".

Mae aelodau wedi gweld nifer o bysgod marw ar wyneb y dŵr

Mae'r gwirfoddolwyr yn defnyddio rhacanau i glirio'r camlesi o'r chwyn
Yn ystod y tywydd poeth diweddar mae'r chwyn sy'n arnofio ar wyneb y dŵr wedi ymledu, ac yn ôl y pysgotwyr mae'n ymdebygu i garped gwyrdd ym Mhontnewydd.
"Mae'r gamlas yn llawn chwyn, mae'n rhwystro golau'r haul rhag treiddio i'r dŵr ac mae'r pysgod yn dioddef," meddai Kevin Putnam.
"Fe wnaeth y cyngor ddweud eu bod nhw'n bwriadu ei glirio yn ystod y gaeaf, ond erbyn hynny mi fydd hi'n rhy hwyr, a bydd y pysgod wedi marw.
"Mae'n eithriadol o rwystredig felly dyna pam rydyn ni, fel grŵp, wedi penderfynu dod yma ein hunain i'w glirio."
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Torfaen: "Rydyn ni wedi ymroi ein hunain i ddarganfod cydbwysedd rhwng ecoleg ac anghenion pobl leol yn gymdeithasol ac yn economaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2018