Taulupe Faletau allan o Gwpan Rygbi'r Byd gydag anaf
- Cyhoeddwyd
Bydd wythwr Cymru, Taulupe Faletau yn methu Cwpan Rygbi'r byd yn Japan eleni o ganlyniad i anaf i bont ei ysgwydd.
Fe ddigwyddodd yr anaf mewn sesiwn ymarfer, a daeth cadarnhad y byddai'n derbyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
Fe dorrodd Faletau ei fraich ddwywaith y tymor diwethaf, wnaeth ei orfodi allan o ymgyrch Chwe Gwlad Cymru ym mis Mawrth.
Dyw heb chwarae i Gymru ers Mawrth 2018.
Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Hoffai carfan Cymru a'r tîm rheoli ddymuno'n dda i Taulupe gyda'i adferiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017