Dyn cryfaf Cymru yn ennill Pencampwriaeth Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Ben

Mae Ben 'Badger' Brunning o'r Bala - dyn cryfaf Cymru - wedi ennill Pencampwriaeth Dyn Cryfaf Ewrop.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Rotherham ddydd Sul.

Roedd Ben sy'n 31 oed eisoes wedi ennill teitl dyn cryfaf Cymru dair gwaith ac mae wedi bod yn cystadlu ers 2012.

Roedd Ben yn wynebu nifer o sialensau, gan gynnwys:

  • Codi 320 cilogram - hynny ellith o - mewn 60 eiliad;

  • Codi pren 140 cilogram dros ei ben - hynny ellith o - 60 eiliad;

  • Cymryd darn pren 400 gilogram 20 medr - amser cyflymaf;

  • Dal morthwyl 25 cilogram am yr amser hired posib; a

  • Llwytho bagiau tywod 120, 130 a 140 cilogram yn yr amser cyflymaf.

Cyn cystadlu dywedodd Ben ei fod wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer y gystadleuaeth a'i obaith oedd cyrraedd y podiwm.