Cyhuddo cyn-gapten Rygbi Gogledd Cymru o ymosod ar blismon

  • Cyhoeddwyd
Maredydd Francis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maredydd Francis yn arfer chwarae dros Rygbi Gogledd Cymru

Mae cyn-gapten Rygbi Gogledd Cymru wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ymosod ar blismon, sy'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol.

Cafodd Maredydd Francis, 25 oed o Wrecsam, ei gadw yn y ddalfa ar ôl i'w gais am fechnïaeth fethu.

Mae'n wynebu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol i swyddog o uned plismona'r ffyrdd mewn digwyddiad ar Ffordd yr Ysgol, Glanyrafon, Wrecsam am tua 20:00 nos Sadwrn.

Mae'r plismon yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bydd Mr Francis yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 6 Medi.