Elusen newydd i roi gofal iechyd meddwl 'integredig'

  • Cyhoeddwyd
Lansio'r elusen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr elusen ei lansio'n swyddogol yn yr Eisteddfod gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac aelodau bwrdd yr elusen

Mae elusen newydd wedi cael ei lansio i helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan gyfuniad o gamddefnydd alcohol neu gyffuriau a phroblemau iechyd meddwl.

Nod elusen Adferiad yw cefnogi pobl sy'n camddefnyddio sylweddau fel ffordd o ymdopi â salwch meddwl.

Fe gafodd y corff cenedlaethol newydd ei greu gan aelodau blaenllaw o dair elusen arall - Hafal, CAIS a WCADA.

Cafodd yr elusen newydd ei lansio gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst ddydd Mawrth.

Problemau'n 'gysylltiedig â'i gilydd'

Dywedodd prif weithredwr CAIS ac ymddiriedolwr Adferiad, Clive Wolfendale mai nod yr elusen yw helpu pobl sy'n camddefnyddio sylweddau ac sy'n aml yn profi digartrefedd, rhwystrau'n canfod gwaith a phroblemau troseddu.

"Mae'r rheiny ohonom sy'n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn gwybod yn rhy dda bod yr amodau hyn, a'r amgylchiadau personol, cymdeithasol ac economaidd sy'n cyfrannu atynt, yn gysylltiedig â'i gilydd," meddai.

"Gall hyn ei gwneud hi'n anodd cael gafael ar driniaeth effeithiol ac rydym yn aml yn clywed straeon am bobl mewn argyfwng sy'n cael eu troi i ffwrdd o'r gwasanaethau iechyd oherwydd eu diagnosis cymhleth, ddeuol neu luosog."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad elusen iechyd meddwl Inroads yng Nghaerdydd fydd cartref Adferiad

Y cyfarwyddwr Lisa Shipton fydd yn arwain Adferiad, gyda phrif weithredwr Hafal, Alun Thomas yn gadeirydd.

Bydd swyddfa'r elusen newydd wedi'i lleoli yn adeilad elusen iechyd meddwl Inroads yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd elusennau CAIS, Hafal, Y Ganolfan Ddibyniaeth Genedlaethol a'r Ystafell Fyw yn gweithio o dan faner yr elusen newydd yn darparu gwasanaethau

Wrth lansio'r elusen ar stondin Llywodraeth Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae hi mor bwysig rhoi cefnogaeth i bobl sy'n dioddef o afiechyd meddwl, a chamddefnydd o gyffuriau - y ddau gyflwr gyda'i gilydd.

"Beth dydyn ni ddim eisiau ei weld ydy bod pobl yn cael eu harwain o un lle i'r llall heb gael y gwasanaethau gyda'i gilydd i helpu gyda'r problemau maen nhw'n eu hwynebu.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gwasanaethau'n effeithiol pan eu bod nhw'n cael eu cynnig gyda'i gilydd, mewn ffordd integredig, ac yn cynnig yr help iawn i bobl, a hynny mewn da bryd."