Wrecsam yn ildio mantais o ddwy gôl i gael gêm gyfartal
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam gêm gyfartal yn erbyn Boreham Wood nos Fawrth er iddyn nhw fod ar y blaen o ddwy gôl gyda 20 munud i fynd.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 2-0 ond fe sgoriodd y tîm cartref ddwy gôl hwyr - gan gynnwys un yn y munud olaf - i wneud y sgôr terfynol yn 2-2.
Mark Harris a Bobby Grant sgoriod y goliau i'r Dreigiau - gyda Kieran Murtagh a Justin Shaibu yn sgorio i Boreham Wood.
Fe enillodd Wrecsam eu gêm gyntaf o'r tymor yn erbyn Barrow o 2-1 ddydd Sadwrn.