Heddlu De Cymru 'heb dorri safonau' cyn marwolaeth menyw

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion fforensig yr heddlu'n cynnal profion yng nghartref Denise RosserFfynhonnell y llun, BBC/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion fforensig yn cynnal profion yng nghartref Denise Rosser (dde) yn 2018

Mae ymchwiliad i'r modd wnaeth Heddlu De Cymru ddelio ag achosion o gam-drin domestig yn erbyn menyw gafodd ei llofruddio'r llynedd wedi dod i ben.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) nad oedden nhw wedi canfod unrhyw dystiolaeth fod swyddogion wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol.

Cafodd Denise Rosser, 38 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Stryd Lewis, Bedlinog ar 29 Mai 2018.

Cafodd ei phartner, Simon Winstone, 49, ei garcharu am oes am ei llofruddio.

Dywedodd yr IOPC fod "hanes hir" o gyswllt rhwng yr heddlu a Ms Rosser, a oedd wedi'i hasesu fel "risg uchel" yn y blynyddoedd yn arwain at ei marwolaeth.

Rhwng Awst 2015 a Mai 2017, cafodd 11 o achosion cam-drin domestig yn ymwneud â Ms Rosser eu hadrodd i Heddlu'r De.

'Lle i wella'

Dywedodd yr IOPC nad oedden nhw wedi dod ar draws unrhyw dystiolaeth o swyddogion yn torri safonau o ymddygiad proffesiynol.

Ond fe ddywedodd y corff fod un person a dderbyniodd galwad wedi anfon yr alwad yn anghywir at Heddlu'r Gwent, gan fod Bedlinog ar y ffin rhwng y ddau lu.

Ffynhonnell y llun, Athena pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Simon Winstone dreulio o leiaf 18 mlynedd dan glo

Ychwanegodd yr IOPC eu bod wedi canfod "rhai ardaloedd bach i wella" o ran y ffordd yr oedd swyddogion yn cadw cofnodion a chwblhau asesiadau risg.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: "Mae fy meddyliau yn aros gyda theulu a ffrindiau Ms Rosser yn dilyn ei marwolaeth drasig.

"Fe wnaethon ni gynnal ymchwiliad trylwyr a chanfod nad oedd unrhyw swyddogion tystiolaeth wedi torri'r safonau a ddisgwylir ganddyn nhw wrth iddynt drin nifer o ddigwyddiadau cam-drin domestig cyn llofruddiaeth Ms Rosser."