Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor

  • Cyhoeddwyd
Tlws y Cerddor

Does neb yn deilwng o Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cyfanwaith i Gôr SATB rhwng chwech ac wyth munud o hyd gyda chyfeiliant neu'n ddigyfeiliant, gan ddefnyddio unrhyw ddetholiad o'r gerdd Llwch y Sêr gan Grahame Davies, i gynnwys dau neu dri darn.

Doedd dim teilyngdod yn y gystadleuaeth y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r gogledd, sef Eisteddfod Ynys Môn 2017.

Cafwyd 10 ymgais ar gyfer y Fedal, ac wrth draddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn ar ran ei gyd-feriniaid, Gareth Glyn ac Eilir Owen Griffiths, dywedodd Richard Elfyn Jones: "Wrth bori drwy'r 10 cyfansoddiad cofiais am yr hen gartŵn o Punch o amser pell pell yn ôl lle'r oedd ciwrad nerfus yn gorfod aros y noson gyda'i esgob ac wrth i'r ddau gael brecwast sylweddolodd y ciwrad druan bod ei wy-wedi-ferwi yn ddrwg iawn. 'Sut mae'ch wy chi giwrad?' gofynnodd yr esgob.

"Ateb y ciwrad nerfus oedd, 'Iawn mewn rhannau, Esgob, iawn mewn rhannau!'

"A dyna oedd fy nheimlad i hefyd yn y gystadleuaeth hon sef bod llawer o'r cyfansoddiadau yn 'iawn mewn rhannau' - llawer o'r ysgrifennu yn iawn ond llawer o'r mynegiant braidd yn anwadal yn dechnegol a heb daro deuddeg o ran adlewyrchu'n effeithiol cerdd hudolus Grahame Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Richard Elfyn Jones fu'n traddodi'r feirniadaeth

'Iaith ryngwladol'

"Un sylw cyffredinol cyn dyfarnu. Wyddon ni ddim faint o gerddoriaeth gorawl gyfoes mae llawer o'r ymgeiswyr wedi gwrando arni cyn mentro i'r gystadleuaeth hon.

"Gan fod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol nid oes terfyn ar fodelau eithriadol grefftus ac ysbrydoledig y gall cyfansoddwr uchelgeisiol eu hastudio a chael ei ysbrydoli ganddynt, ac wedyn efallai eu defnyddio fel modelau.

"Mae'n od i ni fod cynifer o'r cystadleuwyr heb ddangos ymwybyddiaeth o'r cyfoeth o fodelau sydd ar gael i'w hastudio ac i fod yn ysbrydoliaeth iddynt.

"Yn ein barn ni, yr unig rai sy'n haeddu cael eu hystyried mewn dosbarth uwch na'r rhelyw eleni ydy Canrhawdfardd, Sagan a Delw. A phetai Delw wedi bod yn fwy gofalus 'rydym yn siŵr y gallai ef neu hi fod wedi cyfansoddi darn teilwng iawn.

"Ond ni ddigwyddodd hynny yn ei fersiwn o Llwch y Sêr. Felly, 'rydym ein tri braidd yn siomedig ond yn gytûn na ddylid, yn anffodus, wobrwyo eleni."