Y Gynghrair Genedlaethol: Dover Athletic 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cael prynhawn i'w gofio am y rhesymau anghywir ddydd Sadwrn wedi eu hymweliad â Dover.
Bu'n rhaid gohirio'r gic gyntaf am hanner awr yn y lle cyntaf wedi i draffig achosi i'r tîm gyrraedd yn hwyr.
Roedd pethau'n edrych yn addawol pan sgoriodd Mark Harris i roi Wrecsam ar y blaen wedi 36 o funudau.
Ond o fewn munudau cyn diwedd yr hanner cyntaf fe gafodd Bobby Grant ei hel o'r maes ar ôl cael cerdyn coch dros ffrwgwd oddi ar y bêl gyda golwr Dover, Lee Worgan.
Daeth peniad Ricky Modeste wedi 72 o funudau â'r ddau dîm yn gyfartal ond yna fe rwydodd Shaun Pearson i'w gôl ei hun yn y funud olaf gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf y tymor i'r tîm cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019