Busnesau wedi prynu tri banc Tregaron cyn Steddfod 2020

  • Cyhoeddwyd
tregaron

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, fe gaeodd y banc olaf un yn Nhregaron ond bellach mae adeiladau'r tri banc wedi cael eu prynu.

Bydd dwy siop grefftau yn agor yn banc Lloyds a llety yn agor yn yr adeilad du a gwyn a arferai fod yn fanc y NatWest.

Bwyty a siop gwerthu cynnyrch lleol fydd yn agor yn yr hen fanc Barclays ynghanol y dre wedi i'r adeilad gael ei brynu gan Huw Evans, cigydd a fferyllydd lleol a'i ferch Anwen.

"Mae'n dda o beth i Dregaron," meddai Huw Evans, "bod pobl yn prynu'r adeiladau 'ma.

"Gobeithio'n wir y bydd yr atyniadau newydd yn denu pobl i'r dre. Dyw Tregaron ddim yn le chi'n gyrru drwyddo fe - mae'n rhaid i chi ddod yma yn benodol.

Disgrifiad o’r llun,

Anwen Evans a'i thad Huw Evans sydd wedi prynu banc Barclays ger y bont yn Nhregaron

"Gobeithio bydd yr atyniadau newydd ynghyd â'r rhai sy'n bodoli yn barod yn reswm da dros ddenu pobl yma."

Anwen Evans fydd y chweched genhedlaeth i gynnal busnes yn Nhregaron a sioc bleserus oedd canfod mai eu teulu nhw oedd biau'r banc Barclays yn wreiddiol.

Ychwanegodd Huw Evans: "Ein siop cigydd oedd 'na yn wreiddiol ar droad y ganrif ddiwethaf - ac yn digwydd bod mae'n siop gigydd bresennol drws nesaf i Barclays."

'Eisteddfod 2020 yn hwb'

Dywedodd Anwen Evans ei bod yn edrych ymlaen i ymgymryd â'r fusnes.

"Mae lot o waith wedi digwydd yma eisoes ac ry'n yn cadw tipyn o nodweddion y banc - y vault, er enghraifft, fydd y bar.

"Cael yr Eisteddfod yn Nhregaron oedd yr hwb - mae maes y Steddfod yn agos iawn i'r dre ac felly bydd canol y dre o fewn pellter cerdded."

Ychwanegodd Huw Evans ei fod yn bwysig addasu gyda'r oes a dod â bywyd i Dregaron unwaith yn rhagor.