Elin Jones yn galw am fynediad am ddim i Eisteddfod 2020

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y Llywydd, Elin Jones yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2020

Mae Elin Jones wedi dweud ei bod hi'n awyddus i geisio sicrhau bod yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf yn cynnig mynediad am ddim.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl yn Nhregaron ei bod hi am i'r digwyddiad yn 2020 efelychu un Bae Caerdydd y llynedd.

Roedd honno'n un heb ffiniau i'r maes ac felly'n caniatáu i ymwelwyr ddod yno am ddim, tra bod yr ŵyl yn Llanrwst eleni wedi dychwelyd i'r drefn arferol o godi pris mynediad.

Ychwanegodd Ms Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion fel AC a hefyd yn Llywydd ar y Cynulliad, y byddai'n ceisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r cynllun.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, y byddai'n "wych petai'n bosib" ond mai "diwedd y gan yw'r geiniog".

Llywodraeth wedi rhoi £880,000

Ar ddechrau'r wythnos fe wnaeth Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr ŵyl eleni, Trystan Lewis, alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian tuag at ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod er mwyn cyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mewn ymateb fe ddywedodd y llywodraeth eu bod "yn parhau i gefnogi'r Eisteddfod, ac wedi darparu cyllid ychwanegol eleni", gan gyfeirio at grant o £880,000 oedd wedi cyfrannu at bethau fel mynediad am ddim ddydd Sul i 6,000 o ymwelwyr.

Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol golled ariannol sylweddol o £290,000 yn 2018 am nad oedd yn rhaid i ymwelwyr i Fae Caerdydd dalu'r pris mynediad arferol, sydd bellach tua £20 y dydd.

Ond fe ddaeth hynny â buddion hefyd, meddai Ms Jones, o ran nifer y bobl gafodd gyfle i ymwneud â'r ŵyl a diwylliant Cymraeg am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin Jones ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Bae Caerdydd yn 2018

"Y wers o Eisteddfod Bae Caerdydd oedd bod Eisteddfod ddi-dâl, lle does dim codi pris ar fynediad, yn caniatáu falle i bobl fyddai ddim yn ystyried dod i'r Eisteddfod i fynd i'r Eisteddfod, oherwydd mae'r rhwystr hynny o dalu swm eitha' sylweddol yn diflannu'n syth," meddai.

"Felly os ydy'r llywodraeth, a ni fel gwlad eisiau denu mwy o bobl amrywiol i'r Eisteddfod er mwyn bachu eu diddordeb nhw yn yr iaith Gymraeg, yna mae angen mwy o arian i wneud hynny, ac mae hynny'n gorfod dod o'r llywodraeth.

"Mae'r gallu i godi arian yn fasnachol wedi prinhau yn sylweddol. Mae codi arian yn lleol yn gyfraniad pwysig iawn.

"Ond er mwyn annog diddordeb pobl yn yr iaith Gymraeg yna mae'r gallu i ddod mewn i'r maes, a hwnna am ddim, yn bwysig iawn."

'Diwedd y gân yw'r geiniog'

Wrth ymateb fore Gwener, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, y byddai'n "wych petai'n bosib" ond mai "diwedd y gân yw'r geiniog".

"Mae'n amhosib i wireddu hynny heb ailedrych ar ein hariannu craidd ni - ond mae hwnna'n drafodaeth sy'n parhau," meddai.

Dywedodd bod "ewyllys o ran gweld yr Eisteddfod yn rhan ganolog o'r strategaeth un miliwn o siaradwyr" ond bod rhaid "newid y grant i wireddu hynny".

Fe wnaeth Ms Jones gydnabod na allai'r baich ariannol hynny ddisgyn ar ysgwyddau'r Eisteddfod Genedlaethol eto, mor fuan ar ôl y colledion yn 2018.

"Bydden i wrth fy modd os oedd mynediad i'r maes yn Nhregaron am ddim, achos dwi'n meddwl mai dyna fyddai'n denu'r gynulleidfa fwyaf amrywiol, helaethaf posib i'r Eisteddfod hynny," meddai.

"Mae'n sicr yn rhywbeth i anelu ato, i berswadio'r llywodraeth bod 'na werth i wneud hynny, oherwydd bod e'n ffordd i gynnau diddordeb pobl yn yr iaith Gymraeg - nid yn unig i bobl fel ni sy'n siarad Cymraeg nawr, ond i bobl all ddysgu'r Gymraeg a'r rheiny sy'n trosglwyddo'r Gymraeg o un genhedlaeth i'r nesaf.

"Bydde fe'n wych o beth tasen ni'n gallu cael Eisteddfod heb ffens, Eisteddfod heb dâl yn Nhregaron."

Ychwanegodd: "A fyddwn ni'n llwyddo i berswadio pwy bynnag sy'n gallu rhoi'r arian i wireddu hynny?

"Gawn ni weld yn ystod y misoedd nesa'. Ond yn sicr mae'n rhywbeth dwi'n awyddus iawn i weld ar waith."

Teithio i Dregaron

Fe wnaeth Ms Jones gydnabod hefyd y byddai'n rhaid i'r ŵyl yn Nhregaron dalu sylw agos i'r trefniadau yn Llanrwst eleni, o gofio bod y ddwy dref yn wynebu heriau tebyg o ran natur caeau'r ardal a'r nifer cyfyngedig o ffyrdd sy'n arwain yno.

Ond mynnodd y byddai'r heriau hynny hefyd yn gyfle i ardaloedd eraill o Geredigion deimlo effaith dod â'r Brifwyl i'r sir.

"Fe fydd angen edrych ar sut i gludo cymaint o bobl a phosib i Dregaron heb eu bod nhw'n gorfod defnyddio ceir, ac felly fe fydd Llambed, Aberaeron, Aberystwyth yn dod yn ganolfannau hefyd yn yr Eisteddfod yma," meddai.

"Fe fydd hi'n Steddfod fydd yn cyffwrdd â phob rhan o Geredigion, achos fe fydd pobl yn aros mewn llefydd amrywiol iawn yn ystod yr wythnos yna."