Cyrff cyhoeddus yn defnyddio llai o gwpanau plastig

  • Cyhoeddwyd
Discarded disposable coffee cupsFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd 2.2 miliwn yn llai o gwpanau eu defnyddio unwaith yn unig gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru y llynedd - gostyngiad o 19%.

Mae'r manylion, sydd wedi cael eu rhoi i'r BBC drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos hefyd bod £71,000 yn llai wedi cael ei wario ar gwpanau rhwng 2017-18 a 2018-19.

Mae ysbytai, gwasanaethau brys, cynghorau a sefydliadau'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ceisio gostwng y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan gwpanau.

O'r 43 y cafwyd ymateb ganddynt, dywedodd wyth nad oeddynt bellach yn prynu cwpan sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith yn unig. Dywedodd saith o'r wyth nad oeddynt chwaith yn defnyddio gwelltyn na chytleri plastig.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r newyddion ond yn dweud bod y 9.6 miliwn o gwpanau a gafodd eu harchebu yn parhau yn ormod.

'Mwy i'w wneud'

Dywedodd Rebecca Colley-Jones, ymddiriedolwr CIWM Cymru (Chartered Institute of Waste Management): "Mae hyn yn newyddion da, 'Dyw pethau ddim yn digwydd dros nos - un cam ar y tro yw hi.

"Mae dwy filiwn yn llai yn ostyngiad sylweddol. Yr hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yw bod pobl yn gweld canlyniadau prynu cwpanau o'r fath."

Un sefydliad sydd bellach yn ddi-blastig yw Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd llefarydd: "Mae cael gwared o'r defnydd o blastig unwaith yn unig yn un o nifer o gamau yr ydym wedi'i gyflwyno er mwyn sicrhau dyfodol cynhwysol a chynaliadwy i'n cymuned.

"Ry'n yn falch gyda'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - ond nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau chwaith - mae yna fwy i'w wneud."

Dywedodd y sefydliadau sy'n parhau i brynu cwpanau plastig ar gyfer eu defnyddio unwaith eu bod wedi'u hymrwymo i wneud newidiadau.

Dywedodd Bettina Gilbert, un o reolwyr elusen Wrap Cymru: "Mae'n newyddion da fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gostwng y nifer o gwpanau plastig un tro y maent yn eu defnyddio ond mae yna fwy i'w wneud.

"Yn fuan bydd Wrap Cymru yn darparu canllaw a chefnogaeth i gyrff yn y sector gyhoeddus gan fod sicrhau cynaliadwyedd yn ganolog i'n gwaith."