Ymchwiliad wedi tân mewn ffatri alwminiwm ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Ffrwydrad CaergybiFfynhonnell y llun, Megan Wyn Roberts

Mae ymchwiliad wedi'i lansio yn dilyn tân mewn ffatri alwminiwm ar Ynys Môn.

Fe glywodd nifer o bobl ffrwydrad a gweld mwg yn codi o safle AMG Alpoco yng Nghaergybi am 18:00 ddydd Sadwrn.

Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dywedodd y cwmni bod eu protocol diogelwch wedi gweithredu'n "union fel y dylai mewn digwyddiad o'r fath" a bod y gwasanaethau brys wedi ymateb yn gyflym.

'Dim anafiadau'

Ychwanegodd y cwmni eu bod wedi cyfeirio'r mater at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, sydd wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Dywedodd AMG Alpoco mewn datganiad: "Does neb wedi'u hanafu a does dim effaith ar yr amgylchedd o ganlyniad i'r digwyddiad.

"Mae ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal i geisio canfod beth ddigwyddodd.

"Mae'r rhannau o'r safle na gafodd eu heffeithio yn parhau'n weithredol."