Car yn mynd oddi ar glogwyn i'r môr yn Y Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd
carFfynhonnell y llun, Mike Andersen

Cafodd criw bad achub eu galw allan wedi i gar fynd oddi ar y ffordd ac i'r môr yn ardal Y Mwmbwls ger Abertawe.

Daeth galwad i'r gwasanaethau brys ychydig cyn 06:00 fore Mawrth.

Roedd cerbyd wedi mynd dros glogwyn ym Mae Limeslade.

Cadarnhaodd Heddlu'r De bod menyw 37 oed wedi'i chynorthwyo o'r môr.

Cafodd ei chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a'i chludo i Ysbyty Treforys.

Dywedodd Richie Webborn o griw'r bad achub: "Doedd dim llawer o arwyddion i'n galluogi ni i adnabod lleoliad y ddamwain heblaw ychydig o falurion oedd yn arwain at lwybr ar waelod y clogwyn islaw parlwr hufen iâ Forte's."

Ffynhonnell y llun, RNLI