Pryder am gynllun i uwchraddio Ysbyty Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi

Mae trigolion Machynlleth wedi galw ar Fwrdd Iechyd Powys i fwrw 'mlaen â chynlluniau i fuddsoddi yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi.

Yn dilyn misoedd o oedi mae sawl un wedi dechrau cwestiynu os gaiff yr arian ei wario o gwbl.

Cafodd buddsoddiad o £7.8m - er mwyn gwneud gwelliannau i'r ysbyty cymunedol - ei gymeradwyo gan swyddogion cynllunio Cyngor Powys ym mis Mawrth.

Dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad bod y gwaith yn parhau a'u bod nhw'n bwriadu cyhoeddi'r cyllidebau newydd erbyn diwedd y flwyddyn.

'Proses hirfaith'

Yn ôl Maer Machynlleth, Monica Atkins, mae sôn wedi bod am y buddsoddiad ers iddi hi ymuno â'r cyngor tref saith mlynedd yn ôl.

"Pam fod hyn yn cymryd cyhyd? Mae'r broses wedi bod yn un hirfaith wrth iddyn nhw drafod y gyllideb, wedyn y gwaith cynllunio, cyn mynd 'nol i'r gyllideb eto. A nawr mae 'na fwy o oedi fyth," meddai.

"Mae gofal yn y gymuned yn hanfodol, ac mae derbyn y gofal hwnnw yn agos i adre yn gwneud byd o wahaniaeth. Mae sawl gwasanaeth yn cael ei golli yn lleol, ond mae rhaid amddiffyn gofal iechyd."

Ychwanegodd: "Mae yna bryder mawr yma, ac mae pobl yn dechrau meddwl na fydd y cynllun byth yn digwydd. Faint yn hirach fydd raid i ni aros?"

Mae'r buddsoddiad posib ym Machynlleth yn rhan o raglen ehangach gwerth £68m gan Lywodraeth Cymru - sy'n gobeithio cynnig 19 canolfan iechyd newydd o gwmpas y wlad.

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n gobeithio cynnig mwy o ofal i gleifion o fewn eu cymunedau lleol.

Mae Bwrdd Iechyd Powys eisoes wedi dweud bod gwaith atgyweirio brys angen ei wneud tu mewn a thu allan yr adeilad, a byddai anwybyddu'r materion hyn yn peryglu dyfodol yr ysbyty.

O ganlyniad, mae nifer o'r trigolion lleol yn pryderu am effaith yr oedi ar ddyfodol yr adeilad.

Ychwanegodd datganiad y bwrdd iechyd: "Rydyn ni'n adolygu'r Achos Busnes Llawn ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn.

"Mae'r Achos Busnes Llawn yn cynnwys diweddariad ar gost ac amserlen y gwaith.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn cefnogi'r cynlluniau cyffrous i ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi. Bydd y cynllun yn cynnig gwelliannau mawr i gyfleusterau'r ysbyty."