Penderfynu cau meddygfa Glantwymyn
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gwneud y penderfyniad i gau meddygfa Glantwymyn a fydd yn golygu symud cannoedd o gleifion.
Daw'r penderfyniad fel rhan o gynlluniau i ganoli gwasanaethau iechyd Dyffryn Dyfi ym Machynlleth.
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys eu bod yn cydnabod y teimladau cryf o fewn y cymunedau lleol, ond bod problemau recriwtio wedi arwain at y penderfyniad.
Mae Canolfan Iechyd Glantwymyn yn gwasanaethu ardaloedd Llanymawddwy, Dinas Mawddwy, Mallwyd, Aberangell, Cemaes, Cwmllinau, Glantwymyn, Llanwrin, Llanbrynmair, Carno a Dylife.
Gwasanaethu ardal eang
Yn byw yn Llanbrynmair, bydd siwrne Emyr Lewis i'w ganolfan iechyd lleol yn dyblu mewn pellter.
"Yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid i fi fynd lawr i Fachynlleth am dabledi tair gwaith. Doedden nhw ddim yn barod dydd Llun a dim ond hanner yna dydd Mercher oedd yn meddwl mynd lawr eto ddydd Gwener.
"Mae hynny'n 72 o filltiroedd i gyd. Felly maen ddigon hawdd i bobl ddeud bod Machynlleth 'mond saith milltir' i lawr y ffordd."
Mae Emyr Lewis hefyd yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Powys, corff annibynnol sy'n cynrychioli cleifion a chyhoedd yr ardal.
"Dwi'n poeni'n fawr dros bobl mewn oed. Mae hi'n ardal wledig iawn, ac mae 'na bobl yma heb deulu neu ffrindiau i fynd a nhw lawr i'r syrjeri. Mae tacsis wedyn yn ddrud iawn."
Cafodd ymgynghoriad gyda chleifion Iechyd Bro Ddyfi a'r cymunedau ehangach o amgylch Glantwymyn a Machynlleth ei gynnal rhwng 11 Chwefror a 28 Mawrth 2019. Cafwyd bron i 1,000 yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Meddai Elwyn Vaughan, y Cynghorydd Sir lleol: "Mae yna nifer o bryderon wedi bod yn ystod y broses ymgynghori.
"Un oedd mynediad at wasanaethau oherwydd y pellter a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Yr ail oedd gwasanaethau cyflawn Cymraeg. Yn drydydd, mynediad at bresgripsiwn a gallu cyflenwi i'r ardaloedd gwledig.
'Angen sicrwydd ym Machynlleth'
Mae'r cynghorydd hefyd yn galw am "sicrwydd" bod cynlluniau i wario £7.8m ar uwchraddio safle Ysbyty Machynlleth yn mynd eu blaen.
Mewn datganiad mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud eu bod yn "cydnabod y teimladau cryf o fewn y cymunedau lleol ac effaith y newidiadau ar yr ardal."
"Mae panel o swyddogion iechyd yn nodi nifer o gamau allweddol y dylid eu rhoi ar waith yn cwmpasu ffactorau fel trafnidiaeth, yr Iaith Gymraeg, gofalwyr a phresgripsiynau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018