Y straeon tu ôl i rai o oleudai Cymru

  • Cyhoeddwyd

Os ewch am dro ar hyd arfordir Cymru mae'n ddigon posib y gwelwch chi oleudy rhywle yn y pellter.

Mae tua 36 ohonyn nhw i gyd gyda 16 o'r rhain yn dal ar waith yn cynorthwyo llongau - ac mae gan rai ohonyn nhw hanes ddiddorol.

Ffynhonnell y llun, WIKI / COMMONS
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Mwmbwls

Cadw'r fflam ynghyn

Yn 1514 drwy siarter gan Harri VIII, sefydlwyd Trinity House fel corff i ofalu am oleudai Cymru a Lloegr.

Ond hyd at ganol y 1800au nid oedd cymaint â hynny o oleudai yn bodoli, a bychan o ran maint oedd rhai ohonyn nhw. Er enghraifft ym Mhorthcawl doedd dim angen ceidwad hyd yn oed, dim ond lamp olew neu nwy fyddai'n cadw'r golau i fynd.

Nid oedd y goleudai bach yma'n ddibynadwy iawn. Fe aeth sawl llong i drafferth oherwydd bod y golau wedi diffodd neu yn rhy fach i'w weld mewn tywydd mawr.

Fe newidiodd pethau yn dilyn storm fwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Y Storm Fawr ar 26 Hydref 1859, pan gollwyd 133 o longau a bu farw dros 800 o bobl.

Roedd tua 450 ohonynt ar stemar enwog y Royal Charter a suddodd yn agos iawn i'r lan ym Moelfre, Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, WIKI/ COMMONS
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o long enwog y Royal Charter, wnaeth suddo yn agos i Moelfre, Ynys Môn.

I osgoi trychinebau tebyg bu galw mawr gan longau am oleudai dibynadwy ac yn sgil hynny codwyd mwy ohonynt gan Trinity House.

Roedd y goleudai newydd yma yn adeiladau sylweddol gyda'r offer gorau i gynnal golau cyson, felly roedd modd i rhywun fyw ynddyn nhw.

Ceidwad y goleudy

I ddechrau byddai un dyn yn byw ynddynt ar ei ben ei hun am wythnosau ar y tro. Fe newidiodd hynny'n raddol i gael dau aelod o staff rhag i un gael ei daro'n wael.

Ond daeth y drefn honno i ben hefyd drwy holl oleudai Prydain yn dilyn un digwyddiad erchyll yn 1801.

Yng ngoleudy Smalls, Sir Benfro, roedd dau ddyn yn gweithio, Thomas Howell a Thomas Griffith. Roedd y ddau yn dueddol o ffraeo'n aml ac yn ymladd ar adegau.

Pan fu farw Thomas Griffith mewn damwain yn y goleudy, teimlodd Thomas Howell y byddai taflu ei gorff i'r môr yn sicr o ddenu sylw a chyhuddiadau ei fod wedi ei lofruddio.

Felly rhoddodd y corff mewn arch bren syml a adeiladodd ei hun, a'i rhaffu'n sownd i silff tu allan i un o ffenesti'r goleudy.

Ffynhonnell y llun, WIKI/ COMMONS
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Smalls, Sir Benfro

Ond yn ystod storm arw fe chwalwyd yr arch. Drwy'r ffenest, gwelodd Thomas Howell fraich ei gyfaill marw yn chwifio'n nôl a 'mlaen ac yn taro ar y ffenest fel petai'n gofyn am gael dod i mewn.

Cafodd hyn effaith mawr arno ac erbyn i griw newydd gyrraedd i gymryd drosodd ar y shifft nesaf, roedd Howell druan wedi mynd o'i go' yn methu â dygymod â chorff marw ei gydweithiwr yn galw arno. Roedd wedi colli pwysau ac wedi heneiddio dros nos fel nad oedd y criw newydd yn ei 'nabod bron.

Ar ôl hynny penderfynwyd mai tri unigolyn, nid dau, a fyddai'n gweithio pob shifft mewn goleudy. Parhaodd yr arfer hyd at yr 1980au pan gafodd offer mecanyddol a thrydanol eu gosod mewn goleudai.

Weithiau codwyd tŷ bychan yn agos at oleudy a byddai'r ceidwad yn byw yn hwnnw, yn hytrach na'r goleudy ei hun. Dyna oedd yng ngoleudy Trwyn yr As (Nash Point), Bro Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, WIKI / COMMONS
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Trwyn yr As

Pan aeth y goleudy'n fecanyddol ar 5 Awst 1998 dyna ddiwedd y manned lighthouses yng Nghymru.

Yma felly oedd y cediwad olaf yng Nghymru a'r olaf ond un ym Mhrydain. Erbyn heddiw mae holl oleudai Cymru'n cael eu rheoli o bencadlys Trinity House yn Harwich, Sir Essex.

Bythynnod gwyliau sydd ar safle Trwyn yr As bellach fel yn achos sawl goleudy tebyg arall.

Achub y bad achub

Tai bychan oedd hefyd yn ymyl goleudy'r Mwmbwls. Yn 1883 roedd Abraham Ace, ei wraig a'i ddwy ferch Jennie a Margaret yn byw yno. Yn ystod un storm fawr ar 27 Ionawr, 1883 galwyd bad achub y Mwmbwls allan i helpu cwch o'r Almaen oedd mewn trafferth.

Ffynhonnell y llun, Wiki / commons
Disgrifiad o’r llun,

Jennie a Margaret Ace

Yn ystod y storm fe syrthiodd dau aelod o'r bad achub, John Thomas a William Rosser i'r môr a bu bron iddynt foddi yn y tonnau garw.

Ond cerddodd Jennie a Margaret i mewn i'r môr tymhestlog a chlymu dwy siôl at ei gilydd a'u taflu fel rhaff at y dynion cyn eu llusgo i dir sych. Achubwyd pawb o'r cwch o'r Almaen ond bu farw pedwar o ddynion y bad achub.

Derbyniodd cocsyn y bad achub £50 gan yr RNLI am ei ddewrder a fe gafodd criw y bad dystysgrifau crand ond ni chafodd Jennie na Margaret gydnabyddiaeth o gwbl.

Ond yn fuan wedi hynny fe anfonodd gwraig Ymerawdwr yr Almaen froets aur yr un atynt yn ddiolch am fod yn rhan o achub trigolion ei gwlad.

Man gwyn man draw...

Gan amlaf gwyn yw lliw pob goleudy ond weithiau ceir rhai â bandiau coch (neu ddu) ac mae rheswm da dros hynny.

Roedd Trinity House yn mynnu bod goleudai yn cael eu paentio'n wyn os oeddent i'w gweld yn erbyn tirwedd neu fynydd tywyll neu goedwig, ond os mai clogwyni gwynion neu ehangder o fôr mawr gwyn (mewn storm) oedd tu ôl iddyn nhw yna roedd rhaid eu paentio'n streips coch a gwyn neu ddu.

Coch a gwyn yw goleudy Ynys Enlli, sydd hefyd yn adeilad sgwâr yn hytrach na chrwn. Goleudy Enlli yw goleudy sgwâr talaf Prydain.

Yn anffodus, nid yw lliw'r paent wedi atal marwolaethau llawer iawn o adar sydd wedi cael eu lladd ar ôl iddyn nhw hedfan i mewn i'r goleudai.

Codwyd goleudy Emsger (South Bishop) ger Ynys Dewi, Penfro ar ganol llwybr adar oedd yn mudo pob blwyddyn. Roedd goleuadau'r goleudy'n eu denu a'u drysu cymaint fel bod llawer iawn ohonyn nhw'n taro'n erbyn y goleudy ei hun ac yn cael eu lladd.

Yn dilyn trafodaethau rhwng Trinity House a'r RSPB gosodwyd system newydd, ynghyd â llefydd clwydo i'r adar, ac o ganlyniad, bu gostyngiad mawr yn y nifer o ddamweiniau.

Hefyd o ddiddordeb: