Galw ar y Sioe Fawr i gefnogi sioeau amaethyddol llai
- Cyhoeddwyd

Mae angen i'r Sioe Frenhinol roi cefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau amaethyddol llai, yn ôl cadeirydd Sioe Dinbych a Fflint.
Dywedodd Clwyd Spencer y dylai bod cronfa ar gael i helpu'r sioeau bach pan fo'n rhaid canslo oherwydd amgylchiadau fel tywydd garw.
Ond yn ôl cadeirydd y Sioe Frenhinol mae'n rhaid i bob sioe gymryd y risgiau "ar eu hysgwyddau eu hunain".
Ychwanegodd fod y sioe honno yn rhoi arian i un ochr rhag ofn bod rhaid canslo - fel y digwyddodd yn 2001.
Ardal Clwyd sy'n noddi'r Sioe Frenhinol ar gyfer 2020, ac mae digwyddiadau'n cael eu trefnu i godi arian tuag ati.
Ond mae Mr Spencer yn credu y dylai ffermwyr a'r sioeau llawr gwlad gael rhywbeth yn ôl am eu gwaith caled.

"Mae 'na sioeau yma yng ngogledd Cymru sydd wedi cael eu difetha eleni oherwydd y glaw a'r gwynt a dwi'n meddwl dylai'r Sioe Fawr ddangos arweiniad.
"Mae disgwyl i siroedd eu cefnogi nhw yn ariannol bob blwyddyn... a dwi'n teimlo bod y pres i gyd yn mynd un ffordd."
'Ergyd farwol'
Yn ôl Mr Spencer mae angen i'r Sioe Frenhinol sefydlu cronfa i helpu'r "sioeau bach lleol", gan rybuddio bod gorfod canslo sioe fach am un flwyddyn yn unig yn gallu bod yn "ergyd farwol" iddi.
Awgrymodd y gallai'r gronfa gynnig grantiau o "tua £500" pan fo pethau'n mynd o chwith.

Clwyd ydy ardal nawdd y Sioe Frenhinol yn 2020
"Maen nhw [y sioeau bach] yn gwario miloedd ar dentiau ac yn y blaen ac os ydy'r glaw yn dod y noson gynt ac maen nhw'n gorfod gohirio, yna does 'na ddim incwm am y flwyddyn yne," meddai.
Ymhlith y sioeau sydd wedi cael eu canslo eleni mae Sioe Caernarfon - oherwydd y ffliw ceffylau - a Sioe Caerwys - oherwydd y tywydd.
'Egwyddor yn iawn'
Er ei fod yn credu bod yr "egwyddor yn iawn", dywedodd John Davies, cadeirydd bwrdd y Sioe Frenhinol, bod y sioe honno'n cymryd risgiau ei hun.
Dywedodd bod y sioe'n rhoi arian i un ochr i ddiogelu'r digwyddiad pe bai'n rhaid canslo - fel y digwyddodd yn 2001 yn ystod argyfwng clwy traed a'r genau.
"Mae'n rhaid atgoffa'n hunain - roedd yna sioe frenhinol yn Lloegr a 'nath honno fethu. Dyw'r ffaith fod Sioe Frenhinol Cymru ar hyn o bryd yn llwyddiannus ddim yn golygu na ddaw amser pan fydd hi ddim mor llwyddiannus.
"Mae'n rhaid i chi fod yn barod o hyd i edrych dros eich ysgwydd.
"Mae'r risg o ran o ran tywydd neu afiechyd neu ddigwyddiad mawr yn digwydd a bod rhaid gohirio - mae hwnna'n risg rhaid i bob sioe gymryd ar eu hysgwyddau eu hunain a dydy'r Sioe Fawr ddim yn eithriad o ran hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019