Mis i hawlio ad-daliad yn dilyn canslo Maes B

  • Cyhoeddwyd
Maes
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwersyllwyr yn gallu hawlio hyd at £65 mewn ad-daliad

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod gan bobl fis er mwyn hawlio ad-daliad am gigs Maes B, wedi iddyn nhw gael eu canslo oherwydd tywydd garw.

Cafodd gigs nos Wener a nos Sadwrn eu canslo a bu'n rhaid i'r maes pebyll ieuenctid hefyd gau ddeuddydd yn gynt na'r disgwyl yr wythnos ddiwethaf.

Fe ddaeth hynny oherwydd bod rhybuddion melyn am wynt a glaw mewn grym yn yr ardal ar gyfer diwedd y Brifwyl.

Dywedodd yr Eisteddfod bryd hynny eu bod wedi dod i'r penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda "Chyngor Conwy, Heddlu Gogledd Cymru, Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i bobl hawlio'r ad-daliad erbyn 15 Medi

Mae'r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi bod modd hawlio ad-daliad trwy lenwi ffurflen ar eu gwefan, dolen allanol a'i anfon at yr Eisteddfod.

Dywedon nhw fod yn rhaid gwneud hynny cyn 15 Medi.

Am docynnau cyfnod bydd ad-daliad am ddau ddiwrnod olaf yr wythnos, sy'n £50 ar gyfer tocyn bargen gynnar neu £65 am docyn gafodd ei brynu ar ôl 30 Mehefin.

Bydd ad-daliad hefyd i'r rheiny oedd wedi prynu tocynnau unigol ar gyfer gigs nos Wener a nos Sadwrn.