Dodds: 'Angen i Corbyn brofi fod ganddo gefnogaeth ASau'

  • Cyhoeddwyd
Democratiaid Rhyddfrydol yn dathluFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jane Dodds (trydydd o'r chwith) ei hethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed ar 2 Awst

Mae angen i arweinydd y blaid Lafur brofi fod ganddo ddigon o gefnogaeth ymysg ASau cyn bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi ei gynllun i fod yn Brif Weinidog dros dro.

Dyna farn yr AS newydd ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed, Jane Dodds, sy'n dweud bod angen iddo sicrhau cefnogaeth ASau Ceidwadol yn gyntaf.

Mae Jeremy Corbyn wedi ysgrifennu at arweinwyr rhai o bleidiau eraill San Steffan gyda chynllun i atal Brexit heb gytundeb.

Ond dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nad oedd hi'n ffyddiog y bydd cynllun Mr Corbyn yn llwyddo.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement fore Sul, dywedodd Ms Dodds fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud wrth Mr Corbyn eu bod nhw'n barod i'w gefnogi os oes modd iddo lunio cynllun clir.

"Mae'n rhaid iddo ddeud 'mae gen i gefnogaeth yr wyth aelod Ceidwadol sydd ei angen, dyma yw eu henwau ac maen nhw'n barod i gefnogi fi fel Prif Weinidog' ac yna eu rhannu.

"Os oes ganddo'r niferoedd angenrheidiol, yna mae'n rhaid iddo ddangos hynny i ni."

'Un cyfle'

Ychwanegodd Ms Dodds: "Un cyfle sydd gennym ni i ffurfio llywodraeth o undeb cenedlaethol, rydyn ni'n rhedeg allan o amser, ac mae'n rhaid iddo gael ei wneud yn iawn."

"Mae angen rhywun sydd â digon o awdurdod i arwain pobl a sicrhau nad ydyn ni'n gadael Ewrop ar 31 Hydref heb gytundeb.

"Pwy bynnag fydd yn gallu sefydlu'r gefnogaeth a'r awdurdod angenrheidiol yma, yna bydde ni'n siŵr o'u cefnogi nhw."