Mellt 'yn rhannol gyfrifol' am golli cyflenwad trydan

  • Cyhoeddwyd
tywyllwch ar y trenauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y toriad i'r cyflenwad trydan effeithio ar nifer o deithwyr

Mae adroddiad cychwynnol wedi canfod fod mellt wedi cyfrannu at achosi i 44,500 o bobl yng Nghymru golli eu cyflenwad trydan yn gynharach yn y mis.

Fe wnaeth y tywydd garw ar 9 Awst arwain at golli pŵer ar fferm wynt Hornsea ym Môr y Gogledd a phwerdy Little Barford yn Sir Bedford.

Dywedodd y Grid Cenedlaethol bod hynny wedi effeithio ar bron i filiwn o gwsmeriaid ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys tarfu ar wasanaethau trafnidiaeth.

Mae'r rheoleiddwyr Ofgem nawr yn ymchwilio ac fe allai cosb ariannol gael ei godi ar y cwmnïau sy'n gyfrifol.

'Dysgu gwersi'

Cafodd y cyflenwad trydan ei adfer yn weddol sydyn ar y diwrnod, ond fe wnaeth y trafferthion barhau i'r diwrnod nesaf.

Roedd hynny oherwydd bod nifer o drenau wedi gorfod cael peirianwyr i ddod allan i'w trwsio hyd yn oed pan oedd y pŵer wedi dychwelyd, gan olygu oedi ar rannau eraill o'r rhwydwaith.

Dywedodd Ofgem y byddai eu hymchwiliad nawr yn "ceisio gweld pa wersi allai gael eu dysgu o'r toriad i'r cyflenwad trydan er mwyn sicrhau bod modd cymryd camau i gryfhau rhwydwaith ynni Prydain".

Ymhlith y cwmnïau sydd dan ymchwiliad mae'r Grid Cenedlaethol, Trosglwyddiad Trydan y Grid Cenedlaethol, 12 o weithredwyr y rhwydwaith ddosbarthu, a'r pwerdai eu hunain.

Mae'n rhaid i'r Grid Cenedlaethol gyhoeddi adroddiad technegol terfynol erbyn 6 Medi, ac fe fydd Ofgem yn gallu cymryd unrhyw gamau pellach ar ôl hynny.