'Gwneud popeth' i osgoi oedi yn y porthladdoedd wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r arian yn cynorthwyo porthladdoedd fel Caergybi "i weithio'n effeithlon" pan fydd y DU yn gadel yr UE ar 31 Hydref

Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn gwneud popeth posib i osgoi tagfeydd ac oedi ym mhorthladdoedd Cymru wedi Brexit.

Fe wnaeth Michael Gove, sy'n gyfrifol am baratoi'r DU ar gyfer Brexit digytundeb, hefyd fynnu bod dogfen fewnol o Whitehall gafodd ei rhyddhau - oedd yn rhagweld trafferthion - bellach wedi dyddio.

Roedd Mr Gove yn ymweld â phorthladd Caergybi wedi i'r llywodraeth gyhoeddi y bydd porthladdoedd yn Lloegr yn cael £9m o arian ychwanegol i baratoi ar gyfer Brexit.

Bydd £1.7m hefyd yn cael ei roi i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a nhw fydd yn penderfynu faint o'r arian hwnnw fydd yn cael ei wario ar eu porthladdoedd hwythau.

Yn ôl y gweinidog, bydd yn cynorthwyo porthladdoedd fel Caergybi "i weithio'n effeithlon" pan fydd y DU yn gadel yr UE ar 31 Hydref.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod yr arian "yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr".

Dywedodd Mr Gove fod Llywodraeth y DU yn adolygu ei pholisi treth oherwydd pryder y gallai purfeydd olew y DU fod dan fygythiad oherwydd Brexit heb gytundeb.

O dan gynlluniau presennol y llywodraeth, ni fyddai treth yn cael ei osod ar olew sy'n cael ei fewnforio o unrhyw le yn y byd o dan reolau'r WTO, ond fe fydd rhaid talu treth er mwyn allforio olew o Brydain i'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Gove hefyd bod y ddogfen ddiweddar gafodd ei rhyddhau - oedd yn rhybuddio am brinder bwyd a meddyginiaethau petai Brexit heb gytundeb yn digwydd - yn dyddio'n ôl "wythnosau a misoedd".

"Cafodd y rhagolygon yn y ddogfen eu paratoi ar sail gwaith gafodd ei wneud bryd hynny," meddai wrth BBC Cymru ddydd Mercher.

"Nawr mae gennym ni lywodraeth newydd, ac mae'r llywodraeth honno wedi bod yn cymryd camau i sicrhau ein bod ni'n barod i adael ar 31 Hydref."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n medru gwarantu na fyddai trafferthion yn y porthladdoedd ar ôl Brexit, dywedodd Mr Gove fod y llywodraeth yn gwneud "popeth y gallwn ni".

"Allai ddim gwarantu na fydd oedi," meddai.

"Ond rydyn ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n lleihau'r siawns o oedi fel ein bod ni'n medru osgoi unrhyw rwystrau yn ein llwybr."

'Trychinebus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er fod croeso i unrhyw arian newydd, mae hyn yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr.

"Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, porthladdoedd a chwmnïau fferi dros y 12 mis diwethaf i weithredu cynlluniau cadarn i liniaru unrhyw broblem fydd yn cael eu hachosi gan Brexit.

"Ond mae'n glir, er gwaethaf ein cynllunio eang, y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru, ac yn rhoi pwysau sylweddol ar y porthladdoedd a'r cymunedau o'u cwmpas."