Dirwy o £40,000 am lygru dŵr afon gyda chemegau
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni dŵr wedi cael dirwy o £40,000 ar ôl i 500 o bysgod gael eu lladd mewn afon yn Abertawe.
Yn Llys Ynadon Abertawe fe gyfaddefodd Dŵr Cymru eu bod nhw wedi caniatáu i'r afon gael ei llygru.
Cafodd slyri calch ei ollwng ar ddamwain i ddraen oedd yn arwain at Afon Lliw.
Ymhlith y pysgod a gafodd eu lladd oedd brithyllod, llysywod pendoll, crethyll a sawl math o anifail di-asgwrn-cefn gan gynnwys 200 perdys dŵr croyw, clêr Mai a phryfed pric.
Digwyddodd yn safle trin dŵr Felindre, sydd wedi ei leoli y tu allan i Abertawe, yng Ngorffennaf 2018.
Cafodd y cwmni hefyd orchymyn i dalu costau o bron i £9,000.
Felindre yw un o'r gweithiau trin dŵr mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu dŵr ar gyfer bron i 400,000 o gwsmeriaid yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
Roedd y llygredd wedi effeithio ar gyfanswm o dri chwarter milltir (1.2 cilomedr) o'r afon, a'r disgwyl ydy y bydd yn cymryd rhwng tair a phedair blynedd i boblogaethau pysgod gael eu hadfer.
Dywedodd Chris Palmer, uwch swyddog gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein hafonydd yn bwysig i'n bywyd gwyllt, ein heconomi, ein hiechyd a'n lles ac rydym wedi ymrwymo i osgoi digwyddiadau llygru beth bynnag fo'u tarddiad.
"Er gwaethaf ymdrechion Dŵr Cymru i atal y gollyngiad, aeth cryn dipyn o lygredd i'r afon, ac fe effeithiodd hynny'n sylweddol ar bysgod a bywyd gwyllt arall.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r cwmni er mwyn lleihau'r perygl y bydd hyn yn digwydd eto, a gwella ei berfformiad amgylcheddol er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau llygru yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019