Garddwr wedi marw ar ôl cael ei bigo gan gacynen
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed sut y bu farw garddwr ar ôl cael ei bigo gan gacynen yn Sir Ddinbych.
Fe wnaeth Ian Flack, 76 oed o ardal Rhuthun, ymateb yn wael i gael ei bigo wrth arddio yn Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 24 Hydref y llynedd.
Roedd wedi dweud wrth berchennog y tŷ lle'r oedd yn garddio ei fod wedi cael ei bigo ac nad oedd yn teimlo'n dda, cyn syrthio i'r llawr yn fuan wedyn.
Er gwaethaf ymdrechion i'w adfywio - gan gynnwys defnyddio diffibriliwr a chymorth parafeddygon - bu farw.
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad fod Mr Flack, a oedd yn wreiddiol o Sir Gaerhirfryn, wedi marw o anaffylacsis.
Daeth Dirprwy Grwner Gogledd Cymru, Joanne Less, i'r casgliad fod marwolaeth Mr Flack yn ddamweiniol, a'i bod hi'n bosib iddo gael ei bigo fwy nag unwaith.
Clywodd y cwest hefyd bod partner Mr Flack o 45 mlynedd wedi marw o achosion naturiol pedwar diwrnod yn unig wedi ei farwolaeth.